Mae pôl piniwn Gŵyl Ddewi gan BBC Cymru yn awgrymu bod ychydig yn fwy o gefnogaeth i annibyniaeth i Gymru nag yr oedd yn yr un pôl y llynedd.

Bellach, mae 14% o blaid gadael y Deyrnas Unedig, i fyny o 11% yn yr un pôl y llynedd ac i fyny o 3% yn 2014.

Dywedodd 35% y “dylai Senedd Cymru gael mwy o bwerau na’r hyn sydd ganddi ar hyn o bryd”, ond mae’r ganran wyth pwynt yn is na’r llynedd.

Dywedodd 27% fod gan Gymru ddigon o bwerau neu eu bod nhw am weld y drefn bresennol yn parhau.

Dim ond 3% oedd am weld llai o bwerau i Gymru.

Fe fu cynnydd o 1% yn y rhai sydd am weld diddymu’r Senedd yn gyfangwbl, gyda’r ffigwr bellach yn 15%.

Arferion pleidleisio

Mae’r pôl hefyd yn awgrymu cryn gefnogaeth i’r Blaid Lafur ac mae disgwyl iddyn nhw aros mewn grym yn y Senedd yn dilyn yr etholiad ym mis Mai.

Mae disgwyl iddyn nhw gipio 30 o seddi (39%, i fyny 8%), Plaid Cymru 15, y Ceidwadwyr 13 a’r Democratiaid Rhyddfrydol ac UKIP un yr un.

Mae disgwyl i ganran y Ceidwadwyr ostwng 7%, o 31% i 24%, ond fe fydden nhw’n gyfartal â Phlaid Cymru, sydd wedi colli 2% o gefnogaeth ers y llynedd.

Mae’r gefnogaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol i lawr i 4%.

Mae’r pôl piniwn bellach yn cynnwys barn pobol 16 ac 17 oed wrth iddyn nhw gael pleidleisio am y tro cyntaf yng Nghymru.

O safbwynt etholaethau, mae cyfran Llafur wedi codi 6% i 37%, ac mae’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru ar 22% gyda’r naill yn gostwng 7% a’r llall yn gostwng 3% ers y llynedd.

Ond cynyddu mae’r gefnogaeth i UKIP (4% ers y llynedd), gyda Phlaid Diddymu’r Cynulliad hefyd wedi cael 4%.

Ymateb Roger Awan-Scully

“Yn amlwg, mae datganoli o fewn y Deyrnas Unedig yn dal yn ddewis y mwyafrif yng Nghymru, gyda nifer o bobol am weld cynnydd mewn datganoli,” meddai’r Athro Roger Awan-Scully wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC.

“Ond dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld yn amlwg iawn beth cynnydd yn y gefnogaeth i annibyniaeth i Gymru, ac mae hynny wedi’i adlewyrchu yn y pôl newydd hwn.

“Ar yr un pryd, mae’r pôl hwn hefyd yn dangos, fel y mae nifer o rai eraill wedi’i wneud, er bod y gefnogaeth i annibyniaeth wedi cynyddu, fod y gefnogaeth i ddileu datganoli yn llwyr tua’r un lefel neu ychydig yn uwch, hyd yn oed.”

Mae’r pôl hefyd yn awgrymu bod pobol iau yn fwy tebygol o gefnogi annibyniaeth, tra bod pobol hŷn yn fwy tebygol o fod eisiau gweld diddymu’r Senedd.

“Mae hynny hefyd yn adlewyrchu’r patrwm rydyn ni’n ei weld yn yr Alban, lle mae pobol iau yn fwy tebygol o lawer o gefnogi newidiadau gwleidyddol radical, gan fynd mor bell ag annibyniaeth hyd yn oed.”

Y pôl “yn dweud dim”

Yn ôl Mabon ap Gwynfor, ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Dwyfor Meirionnydd yn y Senedd, dydy’r pôl piniwn ddim “yn dweud dim” am y sefyllfa go iawn yng Nghymru.

Mewn edefyn ar Twitter, mae’n dweud mai pôl o safbwynt unoliaethwyr yw hwn ac y byddai pôl o safbwynt y rhai sydd am weld annibyniaeth yn arwain gyda chwestiwn gwahanol.

Mae’n dweud bod “y geiriau sy’n cael eu defnyddio mewn cwestiwn yn hollol hanfodol i’r ffordd mae pobol yn ymateb”, gan ychwanegu fod “y geriau hefyd yn adlewyrchu ar y rhai sy’n comisiynu’r pôl”.

Mae’n dweud bod y BBC “yn defnyddio’r un math o eiriau ag y gwnaethon nhw eu defnyddio dros nifer o flynyddoedd er mwyn mesur yn erbyn [annibyniaeth]”.

“Ond dw i’n meddwl bod angen iddyn nhw ofyn iddyn nhw eu hunain: ai dyma’r cwestiwn cywir i’w ofyn yn y lle cyntaf? A yw’r geiriau’n llwyddo i annog yr ymateb sy’n adlewyrchu hwyliau’r cyhoedd yn gywir?

“Mae ITV yn defnyddio YouGov.

“Fe ddangosodd yr ymateb Indy diwethaf ryw 1/3 o ymatebwyr yn cefnogi annibyniaeth.

“Mae pôl ICM diweddara’r BBC yn nodi mai 14% yw’r ffigwr hwnnw.

“Ond dydyn ni ddim yn cymharu tebyg at ei debyg. Afalau a gellyg, fel maen nhw’n dweud.

“Gadewch i ni edrych ar y cwestiynau.

“Mae YouGov yn gofyn: “Pe bai refferendwm yfory ar Gymru’n dod yn wlad annibynnol ac mai dyma’r cwestiwn, sut fyddech chi’n pleidleisio? A ddylai Cymru fod yn wlad annibynnol?

“Fodd bynnag, mae’r BBC/ICM yn gofyn: “A ddylai Cymru ddod yn annibynnol, ar wahân oddi wrth y DU?

“Mae’r rhain yn ddau gwestiwn gwahanol. Mae un wedi’i ofyn yn bositif a’r llall yn negyddol.

“Mae i ‘ar wahân’ gynodiad negyddol, tra bod ‘Unedig’ (U yn UK) yn bositif.

“Mae’r cwestiwn yn gofyn a yw’r ymatebwr eisiau i rywbeth niweidiol ddigwydd i rywbeth sy’n cael ei osod yn bositif.”

Mae’n mynd yn ei flaen i ddweud bod cwestiwn YouGov yn sefyll ar ei ben ei hun.

“Mewn gwirionedd, mae angen y geiriau go iawn o ran yr hyn fydd ar y papur pleidleisio mewn refferendwm er mwyn cael adlewyrchiad gwirioneddol,” meddai.

“Mae’n amlwg na fydd plaid unoliaethol yn rhoi’r refferendwm hwnnw i ni ac felly, na fyddan nhw’n dylunio’r geiriau.

“Felly gallwn ni gymryd yn ganiataol na fydd pobol Cymru yn cael eu holi am ‘ymwahanu’.

“Os felly, mae’n codi’r cwestiwn, beth yw diben cwestiwn y BBC/ICM?

“Dyw e ddim yn dweud dim byd, nac yn ychwanegu dim byd i’r ddadl genedlaethol.

“Dylai’r BBC fentro ei aralleirio i gael adlewyrchiad go iawn o’r farn yng Nghymru.

“Mae popeth yn dod i lawr i’r seicoleg – canfyddiad, cyd-destun, pwtiadau a.y.b.

“Mae angen i ni ddysgu o Brailsford – mae enillion ymylol yn arwain at wahaniaethau mawr. Mor wir mewn gwleidyddiaeth ag yw e mewn chwaraeon.”