Mae’r actor Johnny Briggs, oedd yn fwyaf adnabyddus fel y cymeriad Mike Baldwin yn ‘Coronation Street’, wedi marw’n 85 oed ar ôl salwch hir.

Mae’n un o actorion amlyca’r opera sebon, gan chwarae’r cymeriad, oedd yn bennaeth ar ffatri dillad isaf, am rai degawdau.

Ymddangosodd am y tro cyntaf yn 1976, ac roedd e yn y rôl tan 2006.

Ond roedd Johnny Briggs hefyd yn adnabyddus ar lwyfan, gan actio ochr yn ochr â Norman Wisdom, Dirk Bogarde a Tommy Steele.

Cafodd ei urddo’n MBE yn 2006.

Mae llu o’i gyd-actorion wedi bod yn talu teyrnged iddo.