Y gyfres The Crown oedd un o enillwyr mawr y Golden Globes dros nos gyda’r ddau actor oedd yn chwarae’r Tywysog Charles a’r Dywysoges Diana yn cipio’r prif wobrau.

Fe enillodd Emma Corrin y wobr am yr actores orau am ei rhan yn y gyfres deledu gan Netflix, tra bod Josh O’Connor wedi cipio’r wobr am yr actor gorau.

Roedd The Crown hefyd wedi ennill y wobr am y ddrama deledu orau ac roedd ’na wobr hefyd i Gillian Anderson am yr actores gynorthwyol orau am ei rôl yn chwarae’r cyn-brif weinidog Margaret Thatcher.

Roedd yr enillwyr eraill o wledydd Prydain yn cynnwys Daniel Kaluuya am Judas And The Black Messiah, John Boyega am Small Axe, Rosamund Pike am I Care A Lot, Anya Taylor-Joy am The Queen’s Gambit a Sacha Baron Cohen, am Borat Subsequent Moviefilm, oedd hefyd wedi ennill gwobr ffilm y flwyddyn.

Nomadland enillodd y wobr am y ddrama orau.

Cafodd y seremoni ei chynnal yn rhithiol, gyda  Tina Fey ac Amy Poehler yn cyflwyno am y pedwerydd tro.

Roedd y ddwy wedi cyfeirio at y ffrae am ddiffyg amrywiaeth ymhlith y corff sy’n dewis enillwyr y Golden Globes. Daeth i’r amlwg nad oes un o’r 87 aelod o’r HFPA yn ddu.