Mae trefnwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi cyhoeddi pwy fydd beirniaid y gystadleuaeth sy’n dathlu doniau llenyddol awduron Cymru yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae deuddeg gwobr, gyda chyfanswm o £14,000 ar gael i’r awduron llwyddiannus yn yr adrannau Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc.

Beirniaid y gwobrau Cymraeg eleni yw’r bardd a’r awdur Guto Dafydd; yr awdur, cyflwynydd a chyn Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn; yr awdur, academydd a’r darlithydd Tomos Owen; a’r comedïwr a’r awdur, Esyllt Sears.

Beirniaid y gwobrau Saesneg eleni yw’r bardd, awdur a dawnsiwr Tishani Doshi; yr athro cynradd, adolygwr a’r dylanwadwr Scott Evans; y Paralympiwr, yr aelod o Dŷ’r Arglwyddi, siaradwr cymhelliant a’r darlledwr Tanni Grey-Thompson; a’r academydd, awdur ac actifydd, a chyn enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn, Charlotte Williams.

Cydweithio â BBC Cymru a golwg360 unwaith eto

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn cyfres o ddarllediadau ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales yn ystod yr haf a fydd yn cynnwys sgyrsiau â’r beirniaid a’r awduron.

Bydd pleidlais Gwobr Barn y Bobl yn cael ei gynnal ar golwg360 eto eleni.

“Rydym wrth ein boddau fod cyfle wedi codi i gydweithio â BBC Cymru Wales unwaith yn rhagor eleni gan nad oes modd i ni gynnal ein seremoni hwyliog arferol yr haf hwn ychwaith,” meddi Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru.

“Mae’r bartneriaeth ddarlledu hon yn ein galluogi i rannu cyffro a bri Gwobr Llyfr y Flwyddyn gyda chynulleidfaoedd creadigol Cymru a thu hwnt, ble bynnag yn y byd y bônt.”

Cyhoeddir y rhestrau byrion ddiwedd mis Mehefin.

Cyn-olygydd golwg360, Ifan Morgan Jones, oedd enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn y llynedd am ei nofel, Babel.

“Lleisiau newydd” Llyfr y Flwyddyn 2020

Non Tudur

Sgwrsio gyda rhai o enillwyr Llyfr y Flwyddyn