Mae Alice Evans wedi ymateb â syndod i’r adroddiadau ei bod hi a’i gŵr, yr actor o Gymru Ioan Gruffudd, am gael ysgariad.

Mae adroddiadau bod cofnodion yn Los Angeles yn dangos bod Ioan Gruffudd wedi gwneud cais am ysgariad.

Daw hyn ar ôl i’w perthynas fynd o dan y chwydd-wydr fis Ionawr pan wnaeth Evans drydar i ddweud bod Gruffudd yn ei gadael hi a’u dau o blant, cyn dileu’r neges yn ddiweddarach.

Maen nhw’n briod ers 2007.

Ymateb Alice Evans

Wrth droi at Instagram i bostio llun o adroddiad newyddion, wnaeth Alice Evans ychwanegu’r neges, “O, iawn. Diolch am roi gwybod i fi. Am wn i?”

Ond dywedodd hi ar Instagram fis diwethaf eu bod nhw’n trafod gwahanu ond eu bod nhw’n “dal yn ffrindiau”.