Mae Côr Pawb a chriw Celfyddydau Span yn Sir Benfro yn annog pobol i ddod ynghyd yn rhithiol i gyd-gyfansoddi cân sianti fôr.
Côr o fwy na 150 o leisiau yw Côr Pawb, a’r rheiny’n amrywio o ran oedran o saith i dros 70.
Maen nhw’n annog pobol fu’n rhan o ddigwyddiadau blynyddol blaenorol i rannu eu hatgofion ohonyn nhw tra eu bod nhw’n cydweithio i greu cân yn nhraddodiad genre sydd wedi cael adfywiad yn ddiweddar o ganlyniad i TikTok.
Fel rhan o ddwy sesiwn ar-lein rhwng 3.30yp a 5yh ar Fawrth 7 a Mawrth 21, bydd cyfle i gyd-ganu siantis môr adnabyddus fel ‘John Kanakanaka’ a’u defnyddio fel ysbrydoliaeth ar gyfer cân newydd sbon.
Bydd cyfle wedyn i ddysgu’r gân mewn grwpiau a’i pherfformio ar y cyd.
Mae’r trefnwyr yn dweud bod rhaid archebu lle ymlaen llaw, a bod croeso i blant gymryd rhan yn y sesiwn.
A all TikTok adfywio rhai o’r siantis Cymraeg?