Mi enillodd Elidir Jones wobr y llynedd am lyfr ffantasi, ac mae yn ei ôl gyda dilyniant… 

Melltith yn y Mynydd yw ail nofel Elidir Jones yn ei gyfres ffantasi i bobol ifanc, yn dilyn Yr Horwth, a enillodd wobr categori Plant a Phobol Ifanc Llyfr y Flwyddyn 2020 – y tro cyntaf i wobr yn y categori gael ei rhoi.