Mae “wedi dod yn glir erbyn hyn” nad oes gan is-adran y Gymraeg lawer o ddylanwad ar adrannau eraill Llywodraeth Cymru.

Dyna mae Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, wedi ei ddweud wrth ymateb i sylwadau diweddar gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg.