Mae gan Ceri Cunnington a Twmffat albwm newydd sy’n gwyntyllu ambell beth wnaeth ei daro yn ystod y cyfnod clo…

Mae’r super group gwerin-pync-reggae-ffync yn eu holau gyda’u halbwm gyntaf ers bron i ddegawd.

Nid yw yn gyfrinach bod Twmffat yn fand sy’n gorlifo gyda thalent cerddorol.

Wele Ceri Cunnington y prif ganwr, y cnonyn aflonydd sydd wedi bod yn cyfranu at y canon pop Cymraeg ers bron i 30 o flynyddoedd erbyn hyn.