“Hon ydi fy nghadair i” – dyna ddywed Caryl Bryn am ei champ hanesyddol …

Dim ond 22 oed oedd enillydd categori Barddoniaeth Cymraeg Llyfr y Flwyddyn eleni, pan gyhoeddodd ei chyfrol fuddugol, Hwn ydy’r llais, tybad?

Mae’n debyg mai Caryl Bryn, o Borth Amlwch ym Môn, yw enillydd ifancaf y categori barddoniaeth erioed. Rhyfeddach fyth yw ei bod hi wedi curo dau o gewri byd y beirdd.