Cyn-olygydd Golwg360, Ifan Morgan Jones, yw enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni am ei nofel, Babel.
Roedd ei nofel eisoes wedi dod i’r brig yng nghategori ffuglen cystadleuaeth flynyddol Llenyddiaeth Cymru ddoe, yn ogystal â chipio Gwobr Barn y Bobol Golwg360 eleni.
Mae Ifan Morgan Jones bellach yn ddarlithydd mewn Newyddiaduraeth yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor, ac ef hefyd yw golygydd y wefan gwleidyddiaeth a materion cyfoes, Nation.Cymru.
Daw o Waunfawr yng Ngwynedd yn wreiddiol, ac mae bellach yn byw ym Mhenrhiwllan ger Llandysul.
Mae’n derbyn gwobr ariannol o £4,000 a thlws wedi ei ddylunio a’i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones. Fe fydd hefyd yn derbyn darlun arbennig gan Lily May Rogers, myfyriwr Darlunio o Goleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn rhodd gan Golwg360, noddwyr Gwobr Barn y Bobl eleni.
Trydedd nofel
Babel yw ei drydedd nofel i oedolion, ac mae’n adrodd stori merch sy’n ffoi oddi wrth ei thad ymosodol er mwyn ceisio bod yn newyddiadurwr ar bapur newydd Llais y Bobol. Buan y mae ei menter yn ei harwain ar drywydd diflaniad plant amddifad o slym yn Burma, gan ddarganfod cynllun annymunol iawn sy’n ymestyn hyd at arweinwyr crefyddol a pherchnogion y ffatri haearn gyfagos.
Ar ran panel beirniadu Llyfr y Flwyddyn, dywedodd Siôn Tomos Owen: “Braf yw nodi ein bod ni fel beirniaid wedi’n plesio’n fawr gyda phob un o’r cyfrolau ar y rhestr fer eleni.
“Nid hawdd oedd dewis un o blith y pedwar enillydd categori, ond roedd y panel yn gytûn fod Babel, nofel Ifan Morgan Jones – sy’n trafod Cymru gyfoes, hanes ein gwleidyddiaeth a chyflwr ein moesau cymdeithasol trwy ddrych y cyfryngau cenedlaethol – yn llawn haeddu teitl Llyfr y Flwyddyn eleni. Llongyfarchiadau i bob un o’r pedwar o enillwyr a’u cyhoeddwyr.”