Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am help y cyhoedd i rwysto rêfs anghyfreithlon mewn ardaloedd gwledig.

Mae eu cyrch #OpFlamenco, sy’n targedu gogledd Powys yn benodol, yn pwyso ar bobl, gan gynnwys ffermwyr a thirfeddianwyr, i riportio unrhyw beth amheus i’r heddlu.

Mae’r heddlu’n bryderus fod rhwydweithiau cymdeithasol yn ei gwneud hi’n haws i drefnwyr ledaenu’r gair, fel bod niferoedd yn gallu tyfu, a lleoliadau’n gallu newid, yn gyflym.

“Fe wyddon ni fod rêfs yn peri pryder i’r gymuned maen nhw ynddi, ac os na chymerir camau cyflym maen nhw’n anodd eu stopio oherwydd y nifer sydd ynddyn nhw,” meddai’r Uwcharolygydd Jon Cummins o Heddlu Dyfed-Powys.

“Mae pryder hefyd am ddiogelwch chwalu digwyddiadau o’r fath wrth inni wynebu’r pandemig. Rydym yn dibynnu ar gymorth cymunedau i riportio unrhyw gweithgarwch amheus ar unwaith, fel y gellir cymryd camau cyflym i rwystro cynulliadau anghyfreithlon.

“Mae’r mathau hyn o ddigwyddiadau anghyfreithlon yn cael eu cydgysylltu’n ofalus i osgoi sylw’r heddlu, a bydd trefnwyr bob amser yn ceisio ffyrdd newydd o osgoi cael eu darganfod.”

Mae’r heddlu’n apelio ar i bobl fod ar eu gwyliadwriaeth am yr arwyddion canlynol:

  • Niferoedd anarferol o fawr o gerbydau, yn enwedig faniau gwersylla neu dryciau yn yr ardal
  • Tresmaswyr anghyfreithlon yn chwilio am safleoedd posibl
  • Pobl yn holi am dir gan gymryd arnyn nhw bod ganddyn nhw ddiddordeb yn ei rentu ar gyfer gweithgareddau cyfreithlon.