Parhau mae’r ymdrechion i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn tref lan-môr yn y gogledd yn dilyn cymeradwyo gorchymyn newydd gan Gyngor Sir Ddinbych ar gais yr heddlu.
Ar ôl ymgynghori gyda’r cyhoedd a pherchnogion busnesau, fe fydd cyfyngiadau ar yfed alcohol, loetran dan ddylanwad cyffuriau a begera yn parhau mewn rhannau penodol o dref y Rhyl.
O dan y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus, fe fydd unigolion sy’n torri’r gwaharddiadau yn cael rhybuddion cosb benodedig, ac yn wynebu achosion llys os byddan nhw’n anwybyddu’r rhybuddion hyn.
“Mae’r gorchymyn hwn yn rhoi grymoedd ychwanegol i’r heddlu i ymdrin â niwsans neu broblemau yn yr ardal benodol sydd yn niweidiol i’r gymuned honno ac ansawdd bywyd ei aelodau,” meddai’r Arolygydd Rhanbarth James Keene o Heddlu Gogledd Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Young, sy’n gyfrifol am Gynllunio, Gwarchod y Cyhoedd, a Chymunedau Mwy Diogel ar Gyngor Sir Ddinbych, fod y gorchymyn gwreiddiol, sydd wedi bod mewn grym am dair blynedd, wedi bod yn llwyddiannus iawn.
“Bydd y gorchymyn newydd hwn yn adeiladu ar waith y gorchymyn cyntaf a bydd yn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol drwy leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol ymhellach yn y rhan hon o’r Rhyl,” meddai.
“Mae creu canol tref diogel a chroesawgar yn allweddol i adfywio a’r weledigaeth ar gyfer canol y dref, a byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth gref gyda Heddlu Gogledd Cymru i fynd i’r afael â’r materion hyn, drwy gefnogaeth a chyngor yn ogystal â gorfodi lle bo angen.”