Mae naturiaethwyr yn yr Alban yn galw am fesurau brys er mwyn gweithredu ar unwaith i rwystro ysgyfarnogod mynydd rhag cael eu lladd.

Er bod Senedd yr Alban wedi pasio deddfwriaeth ym mis Mehefin yn rhoi statws gwarchodol newydd i’r rhywogaeth, nid yw wedi dod i rym eto.

Daeth y tymor cau, pryd mae gwaharddiad ar ladd ysgyfarnogod mynydd, i ben ddoe.

Oherwydd hyn mae ymgyrchwyr yn galw am i gymau gael eu cymryd ar unwaith i rwystro lladd cyn i’r ddeddfwriaeth newydd ddod i rym.

Meddai Bob Elliot, cyfarwyddwr yr elusen lles anifeiliaid OneKind:

“Er yn croesawu’r ddeddf newydd i wneud ysgyfarnogod mynydd yn rhywogaeth a ddiogelir, rydym yn siomedig nad yw Llywodraeth yr Alban wedi ymateb i geisiadau am fesur interim i amddiffyn yr ysgyfarnogod mynydd tan y bydd y ddeddfwriaeth newydd mewn grym.

“Mae hyn yn gadael ysgyfarnogod mynydd yn agored i gael eu lladd yn ddireswm am gyfnod amhenodol.”

Dywedodd Ysgrifennydd Amgylchedd yr Alban, Roseanna Cunningham, ei bod yn disgwyl i bob rheolwr tir ymddwyn yn gyfrifol.

“Mae ysgyfarnogod mynydd yn rhywogaeth eiconig a rydym ni eisiau iddyn nhw ffynnu yn ein hucheldiroedd,” meddai.