Mae mab ieuengaf Rupert Murdoch wedi ymddiswyddo o fwrdd cyfarwyddwyr News Corporation as sail “anghytundeb gyda chynnwys golygyddol” rhai o gyfryngau newyddion y cwmni.

Mae James Murdoch wedi bod yn ffigur dylanwadol yng nghorfforaeth newyddion ei dad ar hyd y blynyddoedd, er iddo fynd i helynt gyda sgandal am hacio ffonau The News of the World yn 2012.

Fodd bynnag, mae hefyd yn cael ei ystyried yn fwy rhyddfrydig ei wleidyddiaeth na’i dad a’i frawd hynaf Lachlan, sy’n ymddangos fel etifedd yr ymerodraeth newyddion.

Yn y gorffennol, mae wedi bod yn feirniadol o agweddau gwleidyddol Fox News, un o rwydweithiau’r Gorfforaeth yn America sy’n nodedig am ei ogwydd ceidwadol. Mae ef a’i wraig Kathryn wedi dangos cefnogaeth gyson i achosion amgylcheddol ac wedi anghytuno ag agwedd News Corporation at newid hinsawdd.

Yr haf yma, mae hefyd wedi cyfrannu 615,000 o ddoleri at gronfa etholiad Joe Biden, ymgeisydd y Democratiaid am yr arlywyddiaeth yn erbyn Donald Trump, yn America.