Mae gweithwyr iechyd yn dal i fod deirgwaith yn fwy tebygol o brofi’n bositif am y coronafeirws hyn yn oed os oes ganddyn nhw offer diogelu personol (PPE).

Dyna yw casgliad astudiaeth newydd o ddata’n ymwneud â 2 filiwn o bobl, gan gynnwys 100,000 o weithwyr iechyd, ym Mhrydain ac America.

Dywed yr ymchwilwyr fod eu hastudiaeth yn cadarnhau pwysigrwydd PPE – ond fod angen gwneud mwy.

Mae gweithwyr heb yr offer angenrheidiol mewn mwy fyth o risg, ac mae gweithwyr iechyd o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethning hefyd yn fwy tebygol o brofi’n bositif.