Mae traethau gorlawn ledled Prydain yn arwain at bryderon y bydd yn amhosibl sicrhau diogelwch pobl yn y môr.

Cafodd Gwylwyr y Glannau ei ddiwrnod prysuraf ers mwy na phedair blynedd ddoe – pan gofnodwyd y trydydd diwrnod poethaf erioed ym Mhrydain – wrth iddyn nhw ymateb i fwy na 300 o ddigwyddiadau.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, cyrhaeddodd y tymheredd 37.8C (100F) ym maes awyr Heathrow am 2.41pm a hefyd 37.3C (99.1F) yng Ngerddi Kew yng ngorllewin Llundain.

Mae cynghorau yn ne-ddwyrain Lloegr yn neilltuol o bryderus, gan gynnwys cyngor dosbarth Thanet yn swydd Caint, a oedd wedi gofyn i bobl osgoi pedwar o’i draethau gan gynnwys Margate.

“Mae’r RNLI yn gwneud gwaith gwych, ond does ganddyn nhw ddim adnoddau diddiwedd i ddelio gyda phobl yn y dŵr,” meddai’r Cynghorydd Rick Everitt, arweinydd cyngor Thanet.

“Os oes gormod o bobl ar y traeth, mae’n dod yn amhosibl ei reoli.”

Roedd llawer o’r 329 o alwadau y bu’n rhaid i Wylwyr y Glannau ymateb iddyn nhw ddoe yn ymwneud â phobl yn cael eu torri i ffwrdd gan y llanw, plant ar goll a nofwyr yn mynd i anawsterau. Roedd y cyfanswm yn cynnwys 129 o alwadau am fadau achub, a 22 lle bu angen defnyddio awyrennau i chwilio.