Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi fod dau glaf arall wedi marw ar ôl profi’n bositif i’r coronafeirws, gan godi cyfanswm marwolaethau Cymru i 1,562.

Fe fu cynnydd o 21 yng nghyfanswm yr achosion yng Nghymru yn y cyfnod 24-awr diwethaf i gael ei gyfrif, gan ddod â chyfanswm yr achosion a gafodd eu cadarnhau i 17,279.

Mae arwyddion, fodd bynnag, fod nifer yr achosion yn ardal Wrecsam yn llai na’r disgwyl.

Dim ond dau achos newydd o’r Coronafeirws sydd wedi eu darganfod hyd yma mewn canolfannau profi symudol yn ardal Hightown a Pharc Caia o’r dref. Mae hyn allan o 400 o bobl a gafodd eu profi y diwrnod cyntaf. Cafodd 400 arall eu profi ddoe, ond dyw canlyniadau’r rhain ddim wedi eu cyhoeddi eto.

Dywed swyddogion iechyd eu bod yn falch iawn o weld cymaint wedi dod am brofion.

“Rydym wedi ein calonogi’n fawr gan y darlun sy’n dod i’r amlwg o’r sesiynau hyn, sy’n awgrymu bod y trosglwyddiad yn sylweddol is na’r disgwyl,” meddai Dr Chris Johnson, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd i Iechyd Cyhoeddus Cymru.  “Dim ond dau achos newydd a nodwyd ar ddiwrnod cyntaf y profion.  Byddwn yn cysylltu ag unigolion gyda’u canlyniadau prawf dros y dyddiau nesaf.

“Mae’r profion yn parhau, felly manteisiwch ar y cyfle i gael eich profi a helpu i atal lledaeniad posibl COVID-19 – hyd yn oed os yw eich symptomau yn ysgafn.”