Mae gorchymyn gwasgaru wedi cael ei roi ar waith yn y Basn Hirgrwn ym Mae Caerdydd ar ôl achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yno neithiwr.

Dywed yr heddlu fod y mwyafrif llethol o bobl a oedd allan yno wedi ymddwyn yn gyfrifol a chadw at gyfyngiadau Covid-19, ond y bu’n rhaid iddyn nhw ddelio â nifer bach o ddigwyddiadau treisgar.

Cafodd dau o bobl – dynes 27 oed a dyn 23 oed – eu harestio ar amheuaeth o ymosod ar weithiwr argyfwng, a chafodd dau heddwas eu hanafu mewn digwyddiadau ar wahân yn yr ardal.

“Fe wnaeth gweithredoedd hunanol lleiafrif ein gadael ni heb ddim ddewis ond gorfodi rhybudd gwasgaru Adran 35 ar gyfer yr ardal,” meddai’r Ditectif Arolygydd Jeff Burton o Heddlu De Cymru.

“Dylai’r rheini sy’n bwriadu ymweld â Chei y Forforwyn heno gofio bod y gorchymyn gwasgaru yn dal mewn grym, a dylai unrhyw sydd am achosi trwbwl gadw draw.

“Rydym eisiau i bobl deimlo’n ddiogel, felly fe fyddwn ni’n cynnal presenoldeb gweladwy yno drwy’r penwythnos. Fe fyddwn ni hefyd yn defnyddio pwerau i atafael alcohol lle bo’r angen.”

Nod gorchmynion gwasgaru o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yw sicrhau diogelwch y gyhoedd a lleihau’r risg o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu anhrefn o fewn yr ardal. Mae’n rhoi’r grym i heddwas wahardd rhywun o ardal am gyfnod o hyd at 48 awr.