Jazz Langdon, o Sir Benfro, yw enillydd Dysgwr yr Ŵyl AmGen.

Mae’r Ŵyl AmGen yn rhan o’r Eisteddfod AmGen, sy’n cael ei chynnal yn lle’r Eisteddfod Genedlaethol a oedd i fod yn Nhregaron eleni.

Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal ar y cyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol, BBC Radio Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae Jazz, 27, sy’n byw yn Arberth, wedi bod yn dysgu’r Gymraeg ers dwy flynedd ddiwethaf, ar gwrs sabothol Cymraeg Mewn Blwyddyn gyda Rhagoriaeth.

Mae hi hefyd yn gydlynydd y Gymraeg yn ei swydd newydd fel athrawes yn Ysgol Tavernspite, yn Sir Benfro.

“Mae’r Gymraeg wedi agor llawer o ddrysau yn fy ngyrfa,” meddai Jazz Langdon.

“Yn fy swydd dw i’n datblygu’r pwnc ac yn helpu athrawon eraill.  Dw i’n ceisio defnyddio’r iaith drwy’r amser.”

Cyngor i ddysgwyr eraill

Cyngor Jazz Langdon i ddysgwyr eraill yw “Siaradwch, siaradwch, siaradwch!”

“Mae Cymru yn falch iawn o’i dysgwyr – mae eisiau iddyn nhw lwyddo ac mae’n awyddus i’w cefnogi.”

“Ysbrydoliaeth i bob dysgwr”

Mae Jazz yn “ysbrydoliaeth i bob dysgwr,” meddai Dona Lewis, un o’r panel beirniadu.

Roedd y panel beirniadu yn cynnwys Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Aran Jones, cyd sylfaenydd SaySomethingInWelsh a Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Roedd yn gystadleuaeth agos, ond fe ddaeth Jazz i’r brig oherwydd ei bod wedi llwyddo i gynnal cyfweliad hollol naturiol, gydag iaith o safon uchel tu hwnt,” meddai Dona Lewis.

“Mae hefyd yn ysbrydoliaeth i bob dysgwr gan ei bod wedi llwyddo i feistroli’r iaith mewn cyfnod mor fyr.  Llongyfarchiadau mawr iawn iddi.”