Llŷr Gwyn Lewis yw enillydd cystadleuaeth Stôl Ryddiaith yr Eisteddfod Amgen.
Ef a ddaeth i’r brig allan o 67 o ymgeiswyr mewn cystadleuaeth i ysgrifennu darn o ryddiaith hyd at 500 gair ar y testun Gobaith. Gan ddefnyddio’r ffug enw Claf Abercuawg, mae ei ddarn yn stori fer sy’n sôn am gyfrif twitter lle mae’r byd rhithiol yn plethu gyda’r byd go iawn.
Daw Llŷr Gwyn Lewis yn wreiddiol o Gaernarfon ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae wedi cyhoeddi barddoniaeth, ffuglen ac erthyglau mewn cyfnodolion, gan gynnwys Ysgrifau Beirniadol, Poetry Wales, Barddas ac O’r Pedwar Gwynt. Enillodd Rhyw Flodau Rhyfel, ei gyfrol ryddiaith gyntaf, wobr Llyfr y Flwyddyn yn y categori Ffeithiol-Greadigol yn 2015, ac mae hefyd wedi cyhoeddi dwy gyfrol arall sef casgliad o gerddi, Storm ar Wyneb yr Haul (2014) a chyfrol o straeon byrion, Fabula (2017).
Manon Steffan Ros a Guto Dafydd oedd yn beirniadu.
Meddai Manon Steffan Ros, awdur y gyfrol fuddugol – Llyfr Glas Nebo – yng nghystadleuaeth Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018: “Mae Claf Abercuawg yn dal i’r dim deimlad anesmwyth cynifer ohonom fod y byd oddi ar ei echel, ac yn portreadu’n gelfydd y modd y mae pla a phoblyddiaeth wedi siglo’r gyfundrefn gysurus oedd ohoni.”
Fel Terwyn Tomos, enillydd y Stôl Farddoniaeth ddoe, fe fydd Llŷr Gwyn Lewis yn ennill stôl arbennig wedi ei greu gan Brif Dechnegydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Tony Thomas, a ddefnyddiodd hen ddeunyddiau o storfa’r Eisteddfod.