Mae cyn-weinidog Ceidwadol, nad yw wedi cael ei enwi, wedi’i arestio ar amheuaeth o dreisio, ymosod yn rhywiol a rheolaeth orfodol, yn ôl adroddiadau.

Mae lle i gredu bod y troseddau honedig wedi digwydd yn ystod perthynas y ddau, a hithau’n gweithio yn ei swyddfa.

Dywed Heddlu Llundain iddyn nhw gael gwybod am y troseddau honedig ddydd Gwener (Gorffennaf 31), a’u bod yn ymwneud â phedwar digwyddiad gwahanol mewn sawl ardal yn Llundain rhwng mis Gorffennaf y llynedd a mis Ionawr eleni.

Cafodd y dyn ei arestio ddoe (dydd Sadwrn, Awst 1) a’i holi yn y ddalfa yn Llundain cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Yn ôl adroddiadau, roedd y Ceidwadwyr eisoes yn gwybod am yr honiadau ond wnaethon nhw ddim ymateb iddyn nhw ar ôl siarad â’r unigolyn dan amheuaeth.

Mae lle i gredu i’r Ceidwadwyr annog y ddynes i gwyno’n swyddogol.

Dydy’r Ceidwadwyr ddim wedi gwneud sylw am y mater.