Mae pennaeth talaith Victoria yn Awstralia wedi cyhoeddi argyfwng yn sgil y coronafeirws, gan gyflwyno cyfyngiadau o’r newydd.

Bydd cyrffiw am gyfnod amhenodol rhwng 8 o’r gloch y nos a 5 o’r gloch y bore, yn ôl Daniel Andrews, sydd wedi rhoi mwy o bwerau i’r heddlu orfodi’r cyfyngiadau.

Fe fu 671 o achosion newydd o’r feirws dros y 24 awr diwethaf, ac fe fu farw saith o bobol.

Mae disgwyl rhagor o gyhoeddiadau am weithleoedd yfory (dydd Llun, Awst 3).

Fydd dim hawl gan bobol ym Melbourne deithio ymhellach na thair milltir o’u cartrefi i siopa, bydd myfyrwyr yn astudio gartref a chanolfannau gofal plant yn cau.

Mae 208 o bobol wedi marw yn Awstralia ers dechrau’r ymlediad.

Yn y cyfamser, mae talaith New South Wales wedi cyhoeddi’r farwolaeth gyntaf yn sgil y feirws ers dros fis.