Mae’r heddlu wedi gwasgaru pobol wnaeth ymgasglu ar gyfer rêf yn Fforest y Ddena y tu draw i’r ffin yn Swydd Gaerloyw.

Maen nhw’n rhybuddio pobol i gadw draw wrth iddyn nhw ymdrin â’r sefyllfa mewn maes parcio yn Swydd Gaerloyw, nid nepell o Gymru.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n gofidio am ddiogelwch pobol, yn ogystal â’r perygl yn sgil y coronafeirws.

Dywed yr heddlu y gallai gymryd cryn amser i ddatrys y sefyllfa’n llwyr.

Dydy hi ddim yn glir eto faint o bobol sydd wedi cael eu harestio.