Mae disgwyl i Donald Trump gael ei ailenwebu ar gyfer arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau mewn seremoni breifat yn ddiweddarach y mis yma.

Fydd aelodau’r wasg ddim yn cael bod yn bresennol, a hynny yn dilyn sylwadau’r arlywydd am bryderon yn sgil y coronafeirws.

Roedd disgwyl i 336 o bobol ymgasglu yng Ngogledd Carolina ar Awst 24 ar gyfer y bleidlais, a’r digwyddiad fel arfer yn denu cryn sylw yn y wasg a’r cyfryngau.

Mae lle i gredu bod nifer o bobol wedi mynegi pryderon am faint o bobol fyddai’n mynd i seremoni agored, a hynny yn sgil y cyfyngiadau teithio sydd yn eu lle mewn sawl talaith.