Mae cyn-Taoiseach, neu brif weinidog, Iwerddon yn dweud bod llywodraeth newydd y wlad eisoes wedi gwneud sawl camgymeriad y gellid fod wedi’u hosgoi.

Leo Varadkar yw’r Tanaiste, neu ddirprwy brif weinidog, newydd yn y llywodraeth glymblaid sy’n gyfuniad o Fine Gael Fianna Fáil a’r Blaid Werdd ac sydd wedi wynebu sawl her ers cael ei ffurfio ym mis Mehefin.

Mae aelodau’r Dáil, neu’r senedd, wedi cwyno nad ydyn nhw wedi cael rôl yn y Cabinet, cafodd y Gweinidog Amaeth Barry Cowen ei ddiswyddo yn sgil helynt yfed a gyrru, ac mae lle i gredu bod arweinydd y Blaid Werdd Eamon Ryan yn cysgu cyn pleidlais seneddol ar swyddi â chyflogau isel.

Yr wythnos hon, bu’n rhaid i’r llywdraeth wneud tro pedol ar atal Taliad Diweithdra’r Pandemig i bobol sy’n teithio dramor i wledydd ar y “rhestr werdd”.

“Dw i’n gwybod fod y llywodraeth wedi dechrau mewn modd sigledig,” meddai Leo Varadkar mewn fideo ar Twitter.

“Llawer o gamgymeriadau anorfodol y gellid fod wedi’u hosgoi.

“Ond ddylai hynny ddim cuddio rhai o’r pethau da iawn wnaeth y llywodraeth dros yr wythnosau diwethaf,” meddai, wrth gyfeirio at gynllun hybu swyddi gwerth pum biliwn a’r cynllun i ailagor ysgolion erbyn diwedd Awst.

Bydd aelodau’n cael peth amser i ffwrdd o’r gwaith seneddol, ond mae’n dweud y bydd eu gwaith yn eu hetholaethau’n parhau, gweinidogion yn parhau â’u gwaith yn eu swyddfeydd a bydd y Cabinet yn cyfarfod ddydd Mawrth (Awst 4).