Mae cyn-bennaeth ffiniau Prydain yn rhybuddio y gallai Prydain a Ffrainc wynebu argyfwng ffoaduriaid os nad ydyn nhw’n dod i gytundeb ar y Sianel.

Daw rhybudd Tony Smith, cyn bennaeth Llu Ffiniau Prydain, yn dilyn record yr wythnos ddiwethaf yn nifer y bobol oedd wedi croesi’r ffin i wledydd Prydain mewn diwrnod.

Mae’n galw am gytundeb i gyd-reoli ffiniau a dychwelyd ffoaduriaid i Ffrainc i ystyried ceisiadau am loches os ydyn nhw’n cyrraedd y lan yn Dover neu’n cael eu hachub o’r môr.

Fis diwethaf, dywedodd Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, fod Llywodraeth Ffrainc yn gyfrifol am niferoedd “annerbyniol” o ffoaduriaid yn teithio.

A bellach, mae Chris Philp, y gweinidog sy’n gyfrifol am ffoaduriaid, yn galw ar Ffrainc i ymateb yn fwy cadarn wrth atal llongau a chychod ar y môr rhag teithio i wledydd Prydain.

Llwyddodd o leiaf 200 o ffoaduriaid i groesi’r Sianel i wledydd Prydain ddydd Iau (Gorffennaf 30), sy’n record am un diwrnod, ac fe wnaeth y ffigwr ostwng i 96 ddydd Gwener (Gorffennaf 31).

Ond dywed Tony Smith y gallai’r niferoedd godi i lefel argyfwng unwaith eto.

“Dw i’n poeni os na chawn ni gytundeb newydd â’r Ffrancwyr ar ddychwelyd, nad ydyn ni am allu stopio hyn ac y gallen ni weld niferoedd ar y raddfa welson ni dros y blynyddoedd aeth heibio,” meddai.