Mae swyddog o’r maes meddygol wnaeth gymharu sefyllfa’r di-Gymraeg yng Nghymru ag “apartheid” wedi cael ei anfon yn ôl i’w hen swydd ar ôl bod ar secondiad.

Roedd James Moore yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol i Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW), corff hyfforddi gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd, a daeth ei sylwadau mewn neges Facebook.

Dywedodd y swyddog iechyd, sy’n byw yn Llansteffan ond sy’n hanu o Sheffield, fod profiad pobol ddi-Gymraeg yng Nghymru yn gyfystyr â phrofiad pobol dduon yn Ne Affrica hyd at yr 1990au.

Roedd ei sylw, yn ôl adroddiad nation.cymru, yn ymateb i stori ynghylch cynlluniau i droi ysgol cyfrwng Saesneg yn un cyfrwng Cymraeg.

Beth ddywedodd James Moore?

“Yr iaith Saesneg yw un o anrhegion [export] pwysicaf y Deyrnas Unedig i’r byd, ac mae’n rhoi mantais anferthol i ni gyd yn y byd,” meddai.

“Mae unrhyw beth sydd yn tanseilio hyn – yn enw cenedlaetholgarwch eithafol [nationalist zealotry] – yn ein niweidio ni i gyd.

“Dychmygwch pe baech yn newid y gair Saesneg i ‘du’ neu (fel y drefn yn Ne Affrica yn hanesyddol) ‘o liw’… efallai dylai’r di-Gymraeg ddefnyddio bysys gwahanol? Ffynhonnau dŵr gwahanol o bosib?

“Yn debyg i De Affrica lle’r oedd y gwynion yn lleiafrif bychan, mae’n bryd i’r 80% di-Gymraeg wrthwynebu’r gormeswyr a rhoi stop ar yr apartheid sy’n mynd rhagddo.”

Yn ddiweddarach dywedodd bod “dwyieithrwydd yn grêt mewn sawl rhan o’r byd” ond bod agweddau “cibddall” yn arwain at Gymru’n methu ar lefel rhyngwladol.

Ategodd bod “cenedlaetholdeb plentynnaidd i weld yn gwbl gysylltiedig â’r Gymraeg”.

Ymateb y Gwasanaeth Ambiwlans

Ers y cyhoeddiad fod James Moore yn dychwelyd i’r Gwasanaeth Ambiwlans, maen nhw wedi cyhoeddi datganiad am y mater.

“Rydym yn ymwybodol o sylwadau annoeth ac ymfflamychol gan aelod o’n staff a oedd, tan yn ddiweddar, wedi bod ar secondiad gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) ers 18 mis,” meddai llefarydd.

“Dydyn ni ddim yn cymeradwyo nac yn cefnogi’r sylwadau hyn, sydd yn mynd yn groes i’n hymrwymiad i’r iaith Gymraeg a’n rôl fel gwasanaeth ambiwlans cenedlaethol Cymru.

“Mae’r camau priodol wedi’u cychwyn yn unol â pholisi disgyblu GIG Cymru.”

 

Sylw ‘apartheid’ y di-Gymraeg yn “gwbl annerbyniol”, medd Gweinidog y Gymraeg

Swyddog iechyd wedi galw am “wrthwynebu’r gormeswyr” (hynny yw, y Cymry Cymraeg)