Fe fydd y Swyddfa Dramor yn hybu’r iaith Gymraeg, y celfyddydau, addysg a busnes yng Nghymru ar Ddydd Gŵyl Dewi yfory (dydd Llun, Mawrth 1).

Mae’r sectorau hyn ymhlith y rhai sydd wedi dioddef yn sgil ymlediad y coronafeirws ac mae digwyddiadau wedi’u trefnu i drafod cysylltiadau masnachu ac addysg Cymru â gweddill y byd ac i ddathlu diwylliant Cymru.

Fel rhan o’r dathliadau, mae staff y Swyddfa Dramor yn Angola, Croatia, Hwngari, India, Iwerddon, y Swistir ac Wganda wedi dod ynghyd i greu fideo Dydd Gŵyl Dewi, sydd hefyd yn cynnwys tatŵ Jessica Hand, Llysgennad Angola, o’r Ddraig Goch ar ei ffêr.

Neges gweinidogion a llysgenhadon

“Mae ein staff Cymreig niferus wrth galon helpu’r Swyddfa Dramor i fod yn rym er daioni o amgylch y byd, a dw i’n dymuno Dydd Gŵyl Dewi Hapus i bawb,” meddai Wendy Morton, un o weinidogion y Swyddfa Dramor.

“Efallai bod cyfyngiadau’r cyfnod clo yn golygu na all nifer o’r digwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi mae ein llysgenadaethau fel arfer yn eu trefnu fynd yn eu blaen eleni, ond dydy hynny ddim yn ein hatal ni rhag dathlu.

“Mae lleisiau Cymreig yn rhan annatod o gyflwyno polisi tramor y Deyrnas Unedig i helpu i herio newid hinsawdd, hybu hawliau dynol a helpu gwledydd tlota’r byd.”

Gareth Ward
Gareth Ward, llysgennad y Deyrnas Unedig yn Fietnam

Un o Wrecsam yn wreiddiol yw Gareth Ward, llysgennad y Deyrnas Unedig yn Fietnam.

“Dw i wedi darganfod fod gan Gymru a Fietnam lawer iawn o bethau’n gyffredin, gan gynnwys arfordir garw, mynyddoedd gwyllt a iaith hyfryd iawn,” meddai.

“Mae yna ymadrodd yn yr iaith Fietnamaidd sy’n arbennig o ddiddorol, sef ‘con rồng cháu tiên’, ac mae hyn yn golygu ‘plant y ddraig’ oherwydd yn ôl chwedloniaeth, mae pobol Fietnam yn ddisgynyddion i ddreigiau.

“Felly hefyd y Cymry, felly mae hynny’n bendant yn fan cychwyn da.”

Jessica Hand, llysgennad y Deyrnas Unedig yn Angola
Jessica Hand, llysgennad y Deyrnas Unedig yn Angola

Daw Jessica Hand o’r Barri yn wreiddiol, ac mae hi’n gweithio yn Angola.

“Mae safon addysg Brydeinig yn cael ei hedmygu ar draws y byd a dw i wedi bod yn falch iawn o ddod o hyd i bobol o Angola sydd wedi graddio o brifysgolion Cymru ac maen nhw bellach ar flaen y gad yn eu proffesiwn,” meddai.

“Yn anffodus, bydd dathliadau Dydd Gŵyl Dewi eleni yn rhithiol oherwydd Covid, ond byddwn ni’n hedfan y faner yma’n falch, fel bob amser, fel dw i’n ei wneud bod dydd â’m tatŵ.”

Anna Ridge
Anna Ridge, llysgennad y Deyrnas Unedig yn Wganda

Daw Anna Ridge o Aberhonddu ac mae hi’n gweithio yn y llysgenhadaeth yn Kampala, prifddinas Wganda.

“Byddwn ni’n dathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni yn y modd arferol,” meddai.

“Bydda i’n anfon fy mhlant i’r ysgol yn eu crysau rygbi Cymru gyda phlât o bice ar y maen i’w rhannu gyda’u cyd-ddisgyblion.”

Yn ôl Alan Gemmell, Dirprwy Uwch Gomisiynydd Prydain i Orllewin India, fe fydd y diwrnod yn gyfle i ddathlu’r cysylltiadau busnes, diwylliannol, ac addysgiadol rhwng Cymru ac India.

Yn eu plith mae cwmni Sure Chill o Gaerdydd, sydd wedi creu technoleg oergelloedd sy’n pweru rhan o raglen frechu India, a chwmni Wockhardt o Wrecsam sydd hefyd yn cyfrannu at yr ymdrechion i frechu pobol ar draws y byd.

“Mae’r cysylltiadau sydd wedi’u meithrin gan fy nghydweithwyr yn yr Adran Fasnach Ryngwladol yn golygu y gall ffermwyr Cymru allforio cig oen yma yn India,” meddai.

“Edrychwn ymlaen at lawer iawn mwy o lwyddiannau rhwng Cymru ac India.”