Gallai gwasanaethau trên rhwng Castell-nedd a Chaerdydd ac rhwng Bangor a Llandudno yn gweld y cynnydd mwyaf yng ngwledydd Prydain ym mhris tocynnau tymor ar gyfer teithwyr.
Mae Press Association wedi llunio rhestr o’r teithiau sy’n debygol o weld y cynnydd mwyaf, gan nodi’r pris presennol a’r pris tebygol newydd.
Ond dydy’r tabl ddim yn nodi prisiau Llundain os oes gan deithiwr gerdyn teithio Llundain ar gyfer teithiau o fewn y ddinas honno.
Mae’r ffigurau’n seiliedig ar gynnydd tebygol o 2.6% yn Lloegr ac yng Nghymru, a chynnydd tebygol o 1.6% yn yr Alban.
Bydd y prisiau newydd yn cael eu cyhoeddi yfory (dydd Llun, Mawrth 1).
Woking i Lundain
Pris presennol: £3,440
Pris ar ôl y cynnydd: £3,529
Cynnydd o: £89
Brighton i Lundain
Pris presennol: £4,980
Pris ar ôl y cynnydd: £5,109
Cynnydd o: £129
Lerpwl i Fanceinion
Pris presennol: £2,692
Pris ar ôl y cynnydd: £2,762
Cynnydd o: £70
Castell-nedd i Gaerdydd
Pris presennol: £1,808
Pris ar ôl y cynnydd: £1,855
Cynnydd o: £47
Whitehaven i Gaerliwelydd (Carlisle)
Pris presennol: £2,032
Pris ar ôl y cynnydd: £2,085
Cynnydd o: £53
Welwyn Garden City i Lundain
Pris presennol: £3,100
Pris ar ôl y cynnydd: £3,181
Cynnydd o: £81
Caerloyw i Birmingham
Pris presennol: £4,356
Pris ar ôl y cynnydd: £4,469
Cynnydd o: £113
Tweedbank i Gaeredin
Pris presennol: £2,900
Pris ar ôl y cynnydd: £2,946
Cynnydd o: £46
Bangor i Landudno
Pris presennol: £1,204
Pris ar ôl y cynnydd: £1,235
Cynnydd o: £31
Caeredin i Glasgow
Pris presennol: £4,200
Pris ar ôl y cynnydd: £4,267
Cynnydd o: £67