Mae’r Unol Daleithiau wedi cymeradwyo brechlyn coronafeirws newydd.

Yn wahanol i frechlynnau Pfizer ac AstraZeneca Rhydychen, dim ond un dos o frechlyn Johnson & Johnson sydd ei angen.

Eisoes, mae mwy na 510,000 o bobol wedi marw yn sgil y feirws yn yr Unol Daleithiau ac mae’r awdurdodau’n awyddus i gyflymu’r broses o frechu pobol.

Yn ôl astudiaeth, mae un dos yn 85% yn effeithiol yn erbyn salwch difrifol ac mae i’w weld yn effeithiol yn erbyn nifer o amrywiolion.

Yn ôl yr Arlywydd Joe Biden, mae’n “newyddion cyffrous i bob Americanwr” ac yn “ddatblygiad calonogol yn ein hymdrechion i ddod â’r argyfwng i ben”.

Serch hynny, mae’n rhybuddio bod “y frwydr ymhell o fod drosodd”.

Manteision

Mae Johnson & Johnson bellach yn ceisio caniatâd i anfon brechlynnau i Ewrop, ac mae i’r brechlyn hwn nifer o fanteision o’i gymharu â’r brechlynnau eraill.

Bydd swyddogion iechyd yn ceisio defnyddio’r brechlyn hwn mewn clinigau brechu symudol, llochesi i bobol ddigartref a morwyr sydd ar y môr am fisoedd lawer.

Mae’r posibilrwydd o gynnig un dos yn unig yn fanteisiol mewn cymunedau lle byddai’n anodd annog rhywun i ddychwelyd ar gyfer ail ddos ymhen tair neu bedair wythnos.

Mae’r brechlyn hefyd yn haws i’w drin a’i drafod, ac fe all bara hyd at dri mis mewn oergell a does dim angen eu rhewi.

Y gobaith yw y bydd biliwn dos ar gael erbyn diwedd y flwyddyn ym mhob rhan o’r byd, ac mae Bahrain eisoes wedi ei gymeradwyo.