Mae 47 o brotestwyr wedi cael eu harestio yn Hong Kong, ac maen nhw’n wynebu cyhuddiadau o danseilio cyfreithiau diogelwch cenedlaethol newydd y wlad.

Cafodd y cyn-ddeddfwyr a chefnogwyr democratiaeth eu harestio fis diwethaf cyn cael eu rhyddhau.

Ond maen nhw yn y ddalfa unwaith eto, ac fe fyddan nhw’n mynd gerbron llys yfory (dydd Llun, Mawrth 1).

Mae lle i gredu eu bod nhw wedi torri’r gyfraith drwy gymryd rhan mewn etholiadau y llynedd, gyda’r bwriad o geisio mwyafrif er mwyn gwrthwynebu biliau niweidiol a fyddai’n arwain yn y pen draw at Carrie Lam yn camu o’r neilltu.

Yn eu plith mae 39 o ddynion ac wyth o fenywod rhwng 23 a 64 oed, gan gynnwys y cyn-ddeddfwr Eddie Chu a Winnie Yu.

Cafodd 55 o bobol eu harestio fis diwethaf.