Mae Ben Lake, llefarydd economi Plaid Cymru, yn galw ar Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, i sicrhau cynllun adferiad a fydd “yn gwarchod swyddi heddiw ac yn ail-gydbwyso’r economi ar gyfer yfory”.

Yn y Wales on Sunday, rhybuddia Aelod Seneddol Ceredigion y Canghellor na ddylai “dynnu’r plwg yn rhy gynnar” drwy flaenoriaethu “disgyblaeth ariannol”, term sy’n “god ar gyfer llymder” yn ôl Ben Lake, sy’n dweud bod cymunedau ledled y Deyrnas Unedig yn dal i deimlo’i effeithiau.

Dywed y dylid cynnal Credyd Cynhwysol, y cynllun ffyrlo a chynlluniau hunangyflogaeth eraill a’u haddasu ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae’n rhybuddio y byddai “aros i’r argyfwng iechyd ostegu cyn dirwyn y cynlluniau cymorth hyn i ben yn gwneud synwyr economaidd”.

Mae’n galw am ddileu’r cap benthyg sydd ar Gymru er mwyn rhoi iddi’r “grym i gyflwyno’r ysgogiad economaidd gwyrdd sy’n hanfodol wrth lunio dyfodol tecach a mwy llewyrchus”.

Daw’r alawad ar ôl i Lywodraeth Prydain benderfynu ar Chwefror 24 y bydden nhw’n atal Llywodraeth Cymru rhag penderfynu sut fyddan nhw’n gwario’r arian sydd wedi’i ddyrannu drwy’r Gronfa Lefelu i Fyny.

Ond mae hyn yn mynd yn groes i’r setliad datganoli, ac mae Ben Lake yn dweud ei bod yn “tanseilio democratiaeth Cymru”.

Sylwadau Ben Lake

“Pan fydd y Canghellor yn camu i fyny i’r blwch dogfennau ddydd Mercher, fe fydd ganddo fe’r dewis naill ai i warchod buddsoddiad trethdalwyr yn ein hadferiad neu dynnu’r plwg yn rhy gynnar a’i adael i gyd i fynd i lawr y draen – a’r adferiad gyda fe,” meddai Ben Lake.

“Dyma’i gyfle i amlinellu adferiad a fydd yn gwarchod swyddi heddiw ac yn ail-gydbwyso’r economi ar gyfer yfory.

“Mae’r sïon yn dew y bydd y Canghellor, ceidwadwr ariannol yn ôl ei gyfaddefiad ei hun yn awyddus i dorri gwariant ar gynlluniau cymorth a chynyddu treth yn enw disgyblaeth arianol.

“Mae hyn yn llai o derm economaidd ac yn fwy o arwyddair i’r Blaid Geidwadol ynghylch sut i wahaniaethu eu hunain yn wleidyddol oddi wrth y Blaid Lafur.

“Mae ’disgyblaeth ariannol’ yn god ar gyfer llymder, y mae ei ddinistr yn dal i gael ei deimlo mewn cymunedau ledled y Deyrnas Unedig.”

Galwad

Yn ôl Ben Lake, bydd Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Prydain i ddileu’r cap ar fenthyg er mwyn i Lywodraeth Cymru gael blaenoriaethu ei gwariant.

“Ar ôl tanseilio democratiaeth Cymru drwy Ddeddf y Farchnad Fewnol, y Gronfa Rhannu Llewyrch a nawr y Gronfa Lefelu i Fyny, rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddangos ei ffydd yng Nghymru bellach drwy roi i ni’r pwerau i gyflwyno’r ysgogiad economaidd gwyrdd sy’n hanfodol i lunio dyfodol tecach a mwy llewyrchus,” meddai.

“Bydd ein hadferiad yn fwy gwydn ac yn fwy atebol pe bai penderfyniadau’n cael eu cymryd mor agos â phosib i’n cymunedau.

“Ym mhob ffordd, mae’r Gyllideb hon yn bwysicach o lawer na’r un ddiwethaf ac fe fydd yn penderfynu ein dyfodol ôl-bandemig.

“Gobeithio y bydd y Canghellor yn rhoi bywoliaethau a thegwch cyn pleidgarwch ac ideoleg gwleidyddol.”