Mae Llywodraeth Cymru am weld Llywodraeth Prydain yn cymryd y camau hanfodol er mwyn dechrau adferiad a sicrhau ffyniant ym mhob rhan o wledydd Prydain.

Mewn llythyr at Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, mae Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid Cymru yn amlinellu blaenoriaethau Cymru ar drothwy cyhoeddi’r Gyllideb yn San Steffan ddydd Mercher (Mawrth 3).

Mae hi’n pwyso ar Lywodraeth Prydain i wneud cyfres o ymrwymiadau i Gymru, gan gynnwys:

  • cadw cymorth i fusnesau ar draws y Deyrnas Unedig
  • cyflwyno mesurau lles a threthiant i gefnogi’r bobol fwyaf agored i niwed
  • unioni’r tanfuddsoddi hanesyddol yng Nghymru ym meysydd ymchwil a datblygu a seilwaith rheilffyrdd
  • darparu cyllid i gynorthwyo gyda’r cyfnod pontio Sero-Net
  • rhoi sicrwydd o ran pwysau ariannol penodol i Gymru

Ac mae hi wedi ategu ei galwadau am gymorth busnes parhaus i’r bobol sydd ar yr incwm isaf.

“Mae’n hanfodol bod y Cynllun Cadw Swyddi a’r Cynllun Cymorth Incwm i’r hunangyflogedig yn cael eu cadw – dylid eu dileu fesul cam dim ond pan fydd adferiad wedi hen gychwyn,” meddai.

“Ni ddylid gadael busnesau ‘ar ymyl y dibyn’.

“Dylid gohirio ad-daliadau’r Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y coronafeirws i gydnabod y bobpl hunangyflogedig sy’n wynebu talu biliau sydd wedi’u gohirio.

“Mae’n hanfodol hefyd cadw’r cynnydd o £20 yr wythnos i Gredyd Cynhwysol a’i wneud yn barhaol, gan sicrhau ei fod ar gael i bobol sy’n cael budd-daliadau prawf modd.

“Mae mwy na 300,000 o deuluoedd yng Nghymru wedi manteisio ar £1,000 yn ychwanegol y flwyddyn o ganlyniad i’r cynnydd hwn a byddai ei ddileu yn awr yn cael effaith niweidiol a hirdymor ar filoedd o aelwydydd ar draws Cymru.”

Trethi

Mae hi hefyd yn galw ar Lywodraeth Prydain i ddefnyddio’u pwerau i sicrhau mesurau trethiant sy’n cefnogi’r grwpiau mwyaf agored i niwed a’r rhai tlotaf yn y gymdeithas.

“Ni ddylai’r Canghellor ddefnyddio’r Gyllideb hon i godi trethi.” meddai.

“Dylai ddal ati i fanteisio ar gyfraddau llog hanesyddol isel i fuddsoddi mewn seilwaith a gwasanaethau cyhoeddus. Bydd hyn yn rhoi’r hwb ariannol ychwanegol i atgyfnerthu adferiad.”

Datganoli

Ar fater gwneud penderfyniadau sydd wedi’u datganoli i Gymru, dywed Rebecca Evans fod ymddygiad Llywodraeth Prydain “yn annerbyniol”.

“Mae’n annerbyniol i Lywodraeth y DU wneud penderfyniadau drwy rym ar faterion datganoledig heb fod yn atebol i’r Senedd ar ran pobol Cymru,” meddai.

“Mae hefyd yn tanseilio’r hyn a nodwyd yn yr Adolygiad o Wariant – yn benodol, y byddai’r arian o’r gronfa hon yn cael ei ddyrannu ‘yn y ffordd arferol’.

“Yn hytrach na chryfhau’r Undeb, canlyniad hyn fydd cynyddu rhaniadau ac anghydraddoldebau.”

Newid hinsawdd

Wrth drafod newid hinsawdd, mae Rebecca Evans yn galw am gyllid teg er mwyn “gwneud degawd y 2020au yn “ddegawd o weithredu pendant”.

“Yr un flaenoriaeth heb ei hariannu, y mae mwyaf o frys amdani, yw adfer tomenni glo ac etifeddiaeth ddiwydiannol arall yng Nghymru,” meddai.

“Mae effaith y newid yn yr hinsawdd, a danlinellwyd ymhellach gan y tirlithriad yn Aberllechau a’r digwyddiad pwll glo a llifogydd yn Sgiwen, yn tynnu ein sylw at y risg o ganlyniadau torcalonnus yn ein cymunedau os na fydd y mater hwn yn cael ei ddatrys yn gyflym ac yn derfynol.

“Mae costau adfer ar raddfa llawer mwy nag unrhyw beth a ragwelwyd ar ddechrau datganoli yn 1999 ac nid yw hyn wedi’i adlewyrchu yn ein trefniadau cyllid presennol.”