Mae Bethan Sayed, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yng Ngorllewin De Cymru, wedi croesawu’r newyddion fod modd creu swigen gymorth ar gyfer aelwydydd lle mae un neu fwy o blant dan un oed yn byw – ond mae hi’n feirniadol o’r ffaith fod y penderfyniad wedi cymryd cyhyd.

Mae’r rheol newydd yn dod i rym ar unwaith, meddai Mark Drakeford mewn datganiad gan Lywodraeth Cymru heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 27).

Ar y cyfan, dydy pobol o wahanol aelwydydd ddim yn cael cymysgu ers i’r cyfyngiadau diweddaraf gael eu cyflwyno ar Ragfyr 20.

Yr unig eithriad i hyn oedd oedolion sy’n byw ar eu pennau eu hunain neu â phlant yn cael creu swigen ag un aelwyd arall.

Pwysleisia Mark Drakeford fod aelwydydd wedi cael dod i gysylltiad ag aelwydydd eraill am resymau trugarog neu at ddibenion gofal plant.

Ond fe fydd modd i aelwydydd lle mae plant yn byw gymysgu “at unrhyw ddiben” o hyn ymlaen.

Yn ogystal, mae e wedi cadarnhau bod modd i bobol 16 neu 17 oed sy’n byw ar eu pennau eu hunain neu â phobol eraill o’r un oed heb fod oedolyn yn byw yno, ffurfio swigen ag un aelwyd arall.

Os yw un aelod o’r aelwyd yn cael symptomau, bydd rhaid i bob aelod o’r swigen hunanynysu.

Ymateb

“Gall dod yn rhiant newydd ar adeg ynysig fod yn llethol, a gall cefnogaeth gan rieni newydd eraill fod yn ganolog i les,” meddai Bethan Sayed wrth ymateb.

“Fel rhiant newydd, alla i ddim gorbwysleisio pwysigrwydd cael yr opsiwn yma o ran cefnogaeth a chyswllt.

“Ar ôl blwyddyn o ymgyrchu, fy unig siom yw ei bod wedi cymryd cyhyd i ddarparu’r cymorth hanfodol hwn.

“Dw i’n diolch i’r holl rieni newydd a gododd eu lleisiau yn ystod y cyfnod hwn.

Mae’n galw am sicrhau bod y gefnogaeth yn parhau er mwyn gwarchod iechyd meddwl pobol yn ystod y pandemig.