Mae tîm rygbi Cymru wedi ennill y Goron Driphlyg ar ôl curo Lloegr o 40-24 yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.

Daw’r fuddugoliaeth a’r tlws yng nghanfed gêm George North dros ei wlad.

Dyma’r tro cyntaf i Gymru sgorio pedwar cais yn erbyn Lloegr ers 1998.

Fe gostiodd diffyg disgyblaeth yn ddrud i Loegr o’r dechrau’n deg, wrth iddyn nhw ildio tair cic gosb yn ystod y munudau agoriadol, gyda Dan Biggar yn manteisio ar yr olaf ohonyn nhw i roi Cymru ar y blaen o 3-0.

Fe wnaeth y Saeson daro’n ôl o fewn dim o dro, gan ennill cic gosb ar ôl i Ben Youngs ddod o fewn trwch blewyn i groesi.

Ond fe barhaodd y diffyg disgyblaeth yn broblem i’r ymwelwyr wrth iddyn nhw ildio un gic gosb ar ôl y llall, gyda Dan Biggar yn cicio’n greadigol o gyflym i Josh Adams gael croesi’r llinell yn y gornel am gais cynta’r gêm, a’r maswr yn cicio’r ddau bwynt o drosiad.

Ymatebodd Lloegr gyda thriphwynt oddi ar droed Owen Farrell ond doedd hi ddim yn hir cyn i Gymru gael eu hail gais, wrth i Louis Rees-Zammit wneud llanast wrth gasglu’r bêl, cyn i Liam Williams dacluso’r sefyllfa a chroesi, gyda’r dyfarnwr fideo’n hapus ei fod e wedi tirio’n lân.

Daeth cais cyntaf Lloegr pan lwyddodd Anthony Watson i gasglu pàs gan Jamie George, ond methu â’r trosiad wnaeth y capten Farrell cyn llwyddo â chic gosb cyn yr egwyl i’w gwneud hi’n 17-14 i Gymru erbyn hanner amser.

Yr ail hanner

Ildiodd Lloegr gic gosb yn gynnar yn yr ail hanner wrth i Jonny Hill ddod i mewn i’r sgarmes o’r ochr, gyda Kieran Hardy yn manteisio gyda rhediad cyflym i groesi am gais.

Ciciodd Farrell driphwynt arall i Loegr i’w cadw nhw yn y gêm, ond cryfhau wrth i’r ail hanner fynd yn ei flaen wnaeth tîm Wayne Pivac.

Daeth cic gosb arall i Gymru wrth i George Ford gicio’n flêr cyn i Tom Curry ddod i mewn o’r ochr.

Rywsut, roedd Lloegr yn gyfartal ar ôl 63 munud pan groesodd Ben Youngs am gais a Farrell yn ychwanegu’r trosiad – ei 1,000fed pwynt mewn gemau rhyngwladol, gan ychwanegu ei enw at restr sy’n cynnwys Dan Carter, Jonny Wilkinson, Neil Jenkins, Ronan O’Gara a Diego Dominguez.

Ond y maswr arall, Callum Sheedy, wnaeth reoli diwedd y gêm ar ôl dod i’r cae yn lle Biggar.

Ciciodd e ddau gic gosb wrth i Loegr barhau i ildio’r ciciau cosb, a Sheedy yn ychwanegu triphwynt arall i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Ond nid dyna ddiwedd y pwyntiau chwaith, gyda Cory Hill yn croesi’n hwyr iawn yn yr ornest a Sheedy yn ychwanegu dau bwynt arall i’w gwneud hi’n 40-24 wrth i Taulupe Faletau gael ei enwi’n seren y gêm.