Cafodd timau pêl-droed Cymru ganlyniadau cymysg yng nghynghreiriau Lloegr heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 27), gyda Wrecsam yn cipio buddugoliaeth swmpus, Caerydd a Chasnewydd ill dau yn gyfartal ac Abertawe’n colli.

Wrecsam 4-1 Wealdstone

Bu’n rhaid i Wrecsam daro’n ôl i gipio buddugoliaeth swmpus o 4-1 dros Wealdstone ar y Cae Ras.

Ar ôl cael cynnig bonws o £250,000 gan y perchnogion enwog newydd pe baen nhw’n ennill dyrchafiad i’r Gynghrair Bêl-droed, fe wnaeth y tîm ymateb yn bositif ar ôl mynd ar ei hôl hi.

Roedd yr ymwelwyr ar y blaen ar ôl 33 munud, gyda Danny Parish yn penio’i seithfed gôl y tymor hwn o gic gornel.

Daeth goliau Wrecsam i gyd yn yr ail hanner, gyda Kwame Thomas yn rhwydo ddwywaith, y naill ochr i gôl Luke Young, ac fe wnaeth Dior Angus yn sicr o’r triphwynt chwarter awr cyn y diwedd.

Casnewydd 0-0 Stevenage

Mae Mike Flynn wedi gwneud cais i symud gemau Casnewydd o gae tywodlyd Rodney Parade ar ôl gwylio’i dîm yn cael gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Stevenage yn yr Ail Adran.

Mae disgwyl iddyn nhw glywed canlyniad yr apêl ddydd Iau (Mawrth 4).

Dim ond tair ergyd gafwyd ar y gôl drwy gydol y gêm, a dau ohonyn nhw gan yr ymwelwyr.

Mae’r canlyniad yn gweld rhediad Stevenage yn cael ei ymestyn i bedair gêm heb golli.

Daeth cyfle gorau’r gêm i Elliott List, a wnaeth gamgymeriad wrth fynd ben-ben â’r golwr Nick Townsend.

Middlesbrough 1-1 Caerdydd

Mae Caerdydd allan o safleoedd y gemau ail gyfle ar ôl gêm gyfartal yn erbyn Middlesbrough a’u cyn-reolwr Neil Warnock.

Mae’r Adar Gleision wedi gostwng dau safle er iddyn nhw fynd ar y blaen wyth munud cyn yr egwyl diolch i beniad gan Sean Morrison oddi ar dafliad hir Will Vaulks.

Roedd Caerdydd yn mynd am eu seithfed buddugoliaeth yn olynol, ond roedd Mick McCarthy yn ddigon bodlon â phwynt ar ôl i’r eilydd Paddy McNair unioni’r sgôr wyth munud cyn diwedd y gêm.

Abertawe 1-3 Bristol City

Cipiodd Bristol City fuddugoliaeth annisgwyl yng ngêm gyntaf Nigel Pearson wrth y llyw, wrth iddyn nhw daro’n ôl ar ôl bod ar ei hôl hi.

Prin oedd cyfleoedd yr Elyrch o flaen y gôl cyn i Kasey Palmer, a dreuliodd hanner cynta’r tymor ar fenthyg gyda’r Elyrch, lawio’r bêl i roi’r cyfle i Andre Ayew rwydo o’r smotyn, ei ddegfed gôl y tymor hwn.

Ond aeth yr Elyrch ar chwâl wedyn, wrth i Zak Vyner gipio’r bêl oddi ar Marc Guehi a darganfod Nakhi Wells gyda chroesiad isel i unioni’r sgôr.

Abertawe oedd y tîm cryfa’ o hyd ond fe wnaeth Palmer roi’r ymwelwyr ar y blaen ddeng munud yn ddiweddarach gyda’i gic gornel yn mynd yn syth i’r rhwyd heb gyffwrdd yr un chwaraewr arall er mawr syndod i’r chwaraewyr ac yn enwedig y golwr Freddie Woodman.

Fe wnaeth Bristol City fagu hyder wedyn, ac fe wnaeth yr eilydd Antoine Semenyo orfodi Woodman i wneud camgymeriad wrth glirio’r bêl, a Semenyo yn cael cyfle syml i rwydo.

Dyma golled gyntaf Abertawe gartref yn y gynghrair ers mis Hydref, ond maen nhw wedi colli dwy gêm allan o dair ar y cyfan, ac mae’r rheolwr Steve Cooper yn sylweddoli na allan nhw fod yn wastraffus os ydyn nhw am barhau i bwyso ar y timau yn y safleoedd dyrchafiad awtomatig rhwng nawr a diwedd y tymor.