Ac mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr Cymru, yn dweud ei fod e a’i dîm eisoes yn canolbwyntio ar y gêm nesaf wrth iddyn nhw lygadu’r Gamp Lawn annisgwyl ar ôl hanner cyntaf digon siomedig ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad o ran perfformiadau.
Fe chwaraeodd y Ffrancwr Pascal Gauzere ran yn y canlyniad, wrth i Loegr ildio dau gais dadleuol yn ystod yr hanner awr agoriadol, gyda chyn-gapten Lloegr, Martin Johnson yn disgrifio’r penderfyniad cyntaf fel un “hollol warthus”.
Yn ôl Eddie Jones, roedd rhoi dau gais dadleuol i Josh Adams a Liam Williams yn eiliadau hollbwysig yn y gêm.
“Maen nhw’n benderfyniadau enfawr,” meddai.
“Allwn ni ddim dadlau, dydyn ni ddim yn cael dadlau.
“Y cyfan fydd yn deillio o hynny yw dirwy a fydd hynny ddim yn helpu unrhyw un.
“Fydd y ci ddim yn gallu bwyta’i fwyd, na’r wraig yn gallu bwyta, felly alla i ddim dweud unrhyw beth.”
Mae’n dweud ymhellach fod Cymru “wedi cael pwyntiau efallai nad oedden nhw’n eu haeddu” yn sgil y penderfyniadau.
“Roedd Cymru’n fuddugwyr teilwng.
“Rydyn ni’n cymryd cyfrifoldeb llawn a ddim yn beio’r dyfarnwr.
“Ond weithiau mae yna amgylchiadau sy’n digwydd ac sy’n anodd ymdopi â nhw a doedden ni ddim yn ddigon da i ymdopi â nhw.
“Dw i eisiau i ‘nghi fwyta bwyd, felly dw i ddim yn mynd i ddweud unrhyw beth.”
Cymru’n canolbwyntio ar y gêm nesaf