Mae Eddie Jones, prif hyfforddwr tîm rygbi Lloegr, wedi penderfynu peidio â chwyno’n swyddogol wrth World Rugby am berfformiad y dyfarnwr Pascal Gauzere yn dilyn y golled o 40-24 yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 27).
Fe wnaeth y Ffrancwr roi dau gais dadleuol i Gymru yn ystod hanner awr agoriadol y gêm y naill i Josh Adams a’r llall i Liam Williams.
Dywedodd Martin Johnson, cyn-gapten Lloegr, fod y cais i Adams yn “ddyfarnu gwarthus”, tra bod Sam Warburton, cyn-gapten Cymru, yn cydnabod hawl Lloegr i fod yn “gandryll”.
Ac mae’r drafodaeth am Louis Rees-Zammit yn bwrw’r bêl ymlaen cyn cais Liam Williams yn dal i rygnu ymlaen.
Cyn cais Adams, cafodd Lloegr gerydd yn sgil eu diffyg disgyblaeth ac wrth i Owen Farrell drosglwyddo neges y dyfarnwr, cymerodd Cymru y gic gosb yn gyflym wrth i Dan Biggar gicio’n lletraws i’r ystlys i ddwylo’r asgellwr.
Cafodd protestiadau’r Saeson eu hwfftio gan y dyfarnwr ar y pryd.
Ildiodd Lloegr 14 o giciau gosb yn ystod y gêm, o’u cymharu â naw gan Gymru, ac maen nhw bellach wedi ildio 13.6 cic gosb ar gyfartaledd yn eu tair gêm gyntaf.
Cydnabod diffyg disgyblaeth
Er tegwch i Ben Youngs, mewnwr Lloegr, diffyg disgyblaeth ac nid penderfyniadau’r dyfarnwr oedd yn gyfrifol am y canlyniad.
“Ein diffyg disgyblaeth oedd thema’r gêm,” meddai.
“Fe gawson ni ein hunain mewn sefyllfa i fwrw iddi a cheisio ennill ond yn anffodus, doedden ni jyst ddim wedi gallu cywiro diffyg disgyblaeth.
“Pan ydych chi’n ildio pwyntiau hawdd, rydych chi’n mynd i roi eich hunain dan bwysau ac yn y pen draw, roedden nhw [Cymru] wedi gallu crafu blaenoriaeth.
“Pob clod i Gymru am fanteisio, ond doedd ein disgyblaeth ni ddim lle’r oedden ni’n disgwyl iddi fod.
“Roedd hi’n debyg iawn pan chwaraeon ni yn erbyn yr Alban.
“Dyna’r peth mwyaf siomedig i fi ac mae’n rhywbeth mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â fe’n gyflym a’i ddileu o’n gêm ni.”