Mae corff Criced Cymru yn dweud ei bod yn “annhebygol” y bydd gan Gymru dîm criced yng Ngemau’r Gymanwlad.

Daw hyn wrth i griced ddychwelyd i Gemau’r Gymanwlad am y tro cyntaf ers 1998, gyda chystadleuaeth ugain pelawd i fenywod yn cael ei chynnal am y tro cyntaf pan fydd y Gemau’n cael eu cynnal yn Birmingham.

Roedd Criced Cymru yn ymateb i gwestiwn ar Twitter ynghylch a fydd gan Gymru dîm yn y gystadleuaeth.

“Mae’n annhebygol, yn anffodus, yn 2022,” oedd yr ymateb.

Mae Criced Cymru wedi rhoi dolen i’r broses gymhwyso ar wefan y Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC), gan ddweud ei bod yn “anodd / cymhleth i West Indies hefyd”.

Mae’r neges yn gorffen drwy ddweud, “Ond cefnogwch timau Tân Cymreig & @GlamCricket wrth gwrs, haf yma, os gwelwch yn dda…” gyda’r hashnod #WeAreWelshCricket.

Y broses gymhwyso

Mae Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad a’r Cyngor Criced Rhyngwladol bellach wedi cyhoeddi’r broses gymhwyso ar gyfer criced yng Ngemau’r Gymanwlad 2022.

Bydd y Gemau’n cael eu cynnal yn Birmingham rhwng Gorffennaf 28 ac Awst 8, gyda’r criced yn cael ei chynnal yn Edgbaston, stadiwm criced y ddinas.

Dyma’r ail waith i griced ymddangos yng Ngemau’r Gymanwlad – roedd hefyd yn un o’r campau yn Kuala Lumpur yn 1998.

Bydd wyth tîm yn cystadlu, gyda Lloegr yn cael lle fel y wlad sy’n cynnal y Gemau.

Bydd y chwe thîm uchaf ar y rhestr ddetholion ar Ebrill 1 hefyd yn cael lle, a bydd y lle olaf yn mynd i enillydd gêm ragbrofol, gyda manylion honno’n cael eu cyhoeddi maes o law.

Gan fod India’r Gorllewin yn cystadlu fel un tîm cenedlaethol ond fod yr ynysoedd unigol yn cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad, fe fydd cystadleuaeth rhyngddyn nhw i benderfynu pwy fydd yn cael chwarae yng Ngemau’r Gymanwlad.

Ac mae’n debygol mai hyn sy’n gyfrifol am y ffaith ei bod yn “annhebygol” y bydd gan Gymru dîm.

Gan fod Cymru a Lloegr yn cystadlu fel un wlad mewn criced rhyngwladol, pe bai’n rhaid dewis un tîm i gynrychioli’r bwrdd, yna Lloegr fyddai’r tîm hwnnw.

Yng Ngemau’r Gymanwlad 1998, roedd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon dîm yr un ond nid Lloegr.