Mae Gareth Bale wedi sgorio mewn dwy gêm glwb yn olynol am y tro cyntaf ers iddo sgorio mewn tair o’r bron i Real Madrid yn 2018.

68 eiliad yn unig gymerodd hi i’r Cymro rwydo yng ngêm Spurs yn erbyn Burnley heddiw (dydd Sul, Chwefror 28).

Ac fe wnaeth e greu gôl i Harry Kane gyda phàs hir ar ôl chwarter awr i ddyblu mantais ei dîm.

Ar ôl chwarae rhan yn y drydedd gôl gan Lucas Moura, sgoriodd y Cymro ei ail gôl ddeng munud wedi’r egwyl.

Creodd Son Heung-min le ar yr asgell chwith cyn symud y bêl i Bale, a hwnnw’n torri tu fewn ac yn tanio ergyd i gornel isa’r rhwyd.

Dyma’r trydydd tro iddo ddechrau gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr ers ymuno â Spurs, ei hen glwb, ar fenthyg o Real Madrid yn y ffenest drosglwyddo.

Enillodd Spurs y gêm o 4-0.