Mae Elfyn Evans yn dweud ei fod e’n “eithaf siomedig” ar ôl gorffen yn bumed yn Rali’r Arctig yn y Ffindir.

Ott Tänak o Estonia ddaeth i’r brig yn weddol gyfforddus ar ddiwedd y ras dridiau yng nghoedwigoedd Lapland, gan orffen 17.5 eiliad ar y blaen.

Kalle Rovanperä ddaeth yn ail yn ei wlad ei hun, gan gipio canlyniad gorau ei yrfa o flaen Thierry Neuville o Wlad Belg, oedd yn drydydd, 2.3 eiliad i ffwrdd o’r ail safle.

Rovanperä, sy’n 20 oed, yw’r gyrrwr ieuengaf erioed i arwain Pencampwriaeth Ralio’r Byd.

Craig Breen o Iwerddon oedd yn bedwerydd, 52.6 eiliad y tu ôl i Tänak, ac fe lwyddodd i gadw ar y blaen i’r Cymro Cymraeg Evans o Ddolgellau, wrth i hwnnw gau’r bwlch i 3.6 eiliad yn y cymal olaf ond un.

Roedd bwlch o 8.9 eiliad rhwng Breen ac Evans yn y pen draw, gyda Takamoto Katsuta o Japan yn chweched.

Ymateb Elfyn Evans

“Roedd yn ddechrau da i’r diwrnod,” meddai Elfyn Evans wrth wefan WRC ar ôl y ras.

“Fe wnes i ddarganfod ’mod i’n ei chael hi ychydig bach yn anodd yn y corneli cyntaf, roedd y gafael ychydig yn uwch nag oeddwn i wedi’i ddisgwyl, felly roedd rhaid i fi or-yrru dipyn i wneud yn iawn am y gafael uwch na’r disgwyl.

“Ond wedyn, roedd hi fel pe baen ni wedi darganfod rhythm ychydig bach yn well ac roedd yn ddechrau da wedyn.”

Ond mae’n dweud, serch hynny, nad oedd e ar ei orau yn y cyfnod pŵer.

“Roedd yn teimlo’n iawn ond roedd yr amser ychydig i ffwrdd o le fydden ni wedi licio bod, felly nid dyna’r digwyddiad gorau i ni, a bod yn onest.

“Dw i’n eitha’ siomedig efo’r canlyniad ar y cyfan.”