Gydag ychydig dros dair wythnos i fynd cyn i Gymru deithio i Frwsel i herio Gwlad Belg yng ngêm gyntaf ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd, mae’r cyfleoedd i greu argraff ar y rheolwr (pwy bynnag fydd hwnnw) yn prinhau.

Uwch Gynghrair Lloegr

Dechreuodd Tyler Roberts i Leeds am y drydedd gêm yn olynol wrth iddynt groesawu Aston Villa ddydd Sadwrn. Creodd y Cymro un o dair gôl Leeds mewn buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Southampton ganol wythnos ond ni lwyddodd yntau na’i dîm i greu hanner cymaint wrth golli o gôl i ddim yn erbyn Villa. Ar y fainc yr oedd Neil Taylor i’r ymwelwyr.

Daeth gêm fwyaf dadleuol y penwythnos yn Brighton wrth i West Brom ennill gêm lawn penderfyniadau od gan y dyfarnwr. Chwaraeodd Hal Robson-Kanu ychydig funudau ar ddiwedd y gêm wrth i’r Baggies ddal eu gafael i ennill o gôl i ddim.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Danny Ward wrth i Gaerlŷr golli gartref yn erbyn Arsenal amser cinio ddydd Sul.

Daeth Gareth Bale oddi ar y fainc i sgorio i Tottenham yn erbyn Wolfsberger yng Nghynghrair Europa ganol wythnos ac roedd hynny, ynghyd â chwpl o berfformiadau addawol arall diweddar, yn ddigon i roi lle iddo yn yr un ar ddeg a ddechreuodd y gêm gynghrair yn erbyn Burnley ddydd Sul.

Y Cymro a oedd seren y gêm wrth i Spurs ennill yn gyfforddus. Agorodd Bale y sgorio gyda gôl syml yn yr ail funud cyn creu’r ail i Harry Kane wedi chwarter awr gyda pherl o bas hir. Wedi i Lucas Moura ychwanegu trydedd Spurs cyn yr egwyl fe goronodd Bale ei berfformiad gyda’i ail ef a phedwaredd ei dîm yn gynnar yn yr ail hanner, yn crymanu’r bêl yn gelfydd i gefn y rhwyd, yn debyg iawn i’r gôl a sgoriodd ganol wythnos. Ar y fainc yr oedd Ben Davies ond nid oedd Joe Rodon yn y garfan.

Parhau a wnaeth rhediad diweddar Dan James yn nhîm Man U wrth iddo ddechrau yn erbyn Chelsea ddydd Sul. Hon a oedd y bedwaredd gêm yn olynol i’r Cymro ei dechrau i Ole Gunnar Solskjaer.

Ymweliad Lerpwl â Bramall Lane i herio Sheffield United a oedd y gêm hwyr nos Sul. Dechreuodd Ethan Ampadu i’r tîm cartref ac roedd Neco Williams ar y fainc i’r ymwelwyr.

Nid yw Ben Woodburn ar gyfyl carfan tîm cyntaf Lerpwl ar hyn o bryd ond fe wnaeth greu argraff i’r tîm dan 23 y penwythnos hwn, yn creu un a sgorio un wrth iddynt guro Arsenal o bedair gôl i ddim.

*

Y Bencampwriaeth

Mae Caerdydd yn parhau i fod heb golli o dan reolaeth Mick McCarthy yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn tîm presennol cyn reolwr yr Adar Gleision, Neil Warnock. Gôl yr un a oedd hi ym Middlesbrough gyda gôl Caerdydd yn deillio o ffynhonnell sydd yn prysur ddatblygu yn dipyn o arf, tafliad hir Will Vaulks.

Sgoriodd Kieffer Moore yn erbyn Bournemouth ganol wythnos ac roedd yntau a Harry Wilson yn y tîm eto ar y penwythnos. Ar y fainc yr oedd Jonny Williams a Mark Harris.

Collodd Abertawe am yr ail benwythnos yn olynol, gyda Ben Cabango a Connor Roberts yn chwarae yn y golled ddiweddaraf o dair gôl i un yn erbyn Bristol City. Roedd buddugoliaeth i’r Elyrch ganol wythnos serch hynny wrth i Cabango sgorio unig gôl y gêm yn erbyn Coventry.

Roedd newyddion cymysg i gefnogwyr Cymru yn Kenilworth Road ddydd Sadwrn. Y newyddion da a oedd gweld Joe Morrell yn dechrau am yr eildro mewn wythnos. Y newyddion drwg a oedd iddo gael ei eilyddio ar hanner amser gyda’i dîm ddwy gôl i ddim ar ei hôl hi. A bydd hi’n dipyn o her iddo gadw’i le ar gyfer y gêm nesaf o ystyried i Luton sgorio tair yn yr ail hanner i ennill y gêm.

Yr unig Gymro i sgorio yn y Bencampwriaeth y penwythnos hwn a oedd Ched Evans, a rwydodd yr ail o dair gôl Preston yn eu buddugoliaeth dros Huddersfield. Chwaraeodd Andrew Hughes y gêm gyfan yn yr amddiffyn hefyd wrth i’r Lilis Gwynion gadw llechen lân.

 

Colli o ddwy gôl i un a oedd hanes Stoke yn Brentford. Dechreuodd James Chester, Joe Allen a Rhys Norrington-Davies y gêm ond cafodd Norrington-Davies ei eilyddio ar hanner amser. Roedd ychydig o funudau ar y diwedd i Sam Vokes hefyd. Ar y fainc yr oedd Adam Davies.

Colli o ddwy gôl i un a wnaeth Millwall yn Barnsley hefyd ond ni ellir beio Tom Bradshaw am hynny gan mai ychydig eiliadau ar ddiwedd y gêm a gafodd y Cymro.

Dechreuodd Shaun MacDonald golled Rotherham o gôl i ddim yn erbyn Reading ac eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Chris Mepham ym muddugoliaeth Bournemouth yn erbyn Watford.

Roedd hi’n frwydr rhwng y tîm ar y gwaelod a’r tîm ar y brig ddydd Sul wrth i Wycombe groesawu Norwich i Adams Park. Colli a fu hanes Wycombe gyda Joe Jacobson yn chwarae chwarter olaf y gêm ac Alex Samuel yn eilydd heb ei ddefnyddio.

*

Cynghreiriau is

Daeth gêm fwyaf cyffrous yr Adran Gyntaf yn Home Park ddydd Sadwrn wrth i Plymouth guro Lincoln o bedair gôl i dair. Dechreuodd prif sgoriwr Plymouth, Luke Jephcott, ar y fainc cyn dod i’r cae ar gyfer chwarter olaf y gêm. Ni wnaeth y Cymro rwydo ond sgoriodd ei dîm ddwy gôl i ennill y gêm wedi iddo ymuno â’r ornest. Chwaraeodd Brennan Johnson y gêm gyfan i’r ymwelwyr gan ennill y gic o’r smotyn ar gyfer eu hail gôl.

Roedd Wes Burns yng nghanol popeth wrth i Fleetwood gael gêm gyfartal gartref yn erbyn Accrington. Unionodd y sgôr i’w dîm gydag ergyd o ongl dynn cyn ennill cic o’r smotyn a fyddai wedi cipio’r tri phwynt oni bai iddi gael ei methu gan Josh Morris.

Cafodd Maxwell y gorau o Gunter yn y frwydr rhwng y ddau Chris ar y Valley. Cadwodd gôl-geidwad Blackpool lechen lân wrth i’w dîm ennill o dair gôl i ddim yn Charlton. Nid oedd Adam Matthews yn y garfan ond fe wnaeth chwarae’r 90 munud yn y golled ganol wythnos yn erbyn Burton.

Chwaraeodd James Wilson a Gwion Edwards ym muddugoliaeth Ipswich dros Doncaster, Wilson o’r dechrau ac Edwards oddi ar y fainc. Dwy gôl i un a oedd hi, gyda Matthew Smith yn chwarae ychydig llai nag awr i’r ymwelwyr.

Awr a gafodd Ellis Harrison hefyd o gêm gyfartal Portsmouth yn erbyn Gillingham.

Llithrodd Bristol Rovers i’r tri isaf ar ôl colli o ddwy gôl i un yn erbyn yr Amwythig. Chwaraeodd Cian Harries y gêm gyfan yn yr amddiffyn ac mae’n bosib y bydd Cymro arall yn ymuno ag ef yn fuan yn y frwydr i osgoi’r gwymp. Mae Joe Ledley wedi bod yn hyfforddi gyda’r tîm o Fryste ac yn ôl y sôn fe allai arwyddo cytundeb dros y dyddiad nesaf.

Yn yr Ail Adran, arhosodd Casnewydd yn y safleoedd ail gyfle gyda gêm ddi sgôr yn erbyn Stevenage ar Rodney Parade. Dechreuodd Liam Sheppard a Josh Sheehan i’r Alltudion ac roedd Tom King ar y fainc.

Y tîm gorau yn yr Ail Adran ar hyn o bryd yw Bolton, sydd wedi saethu i fyny i’r safleoedd ail gyfle gyda phum buddugoliaeth yn olynol. Mae dylanwad Cymreig ar y rhediad diweddar gyda Gethin Jones, Declan John, Jordan Williams a Lloyd Isgrove i gyd yn dechrau yn y fuddugoliaeth ddiweddaraf yn erbyn Barrow. Roedd Neil Eardley a James Jones yn nhîm y gwrthwynebwyr ond dim sôn o Dion O’Donohue.

*

Yr Alban a thu hwnt

Colli a fu hanes y Cymry yng nghynghreiriau’r Alban y penwythnos hwn. Roedd Ash Taylor yn nhîm Aberdeen a gollodd yn erbyn Celtic yn yr Uwch Gynghrair a Christian Doidge yn nhîm Hibs a gollodd gartref yn erbyn Motherwell. Yn y Bencampwriaeth, fe ildiodd Owain Fôn Williams unig gôl y gêm wrth i Dunfermline deithio i herio Queen of the South.

Roedd Aaron Ramsey yn ddylanwadol wrth greu gôl Christiano Ronaldo i Juventus yn Verona ddydd Sadwrn. Cafodd y Cymro ei eilyddio hanner ffordd trwy’r ail hanner cyn i’w dîm ildio gôl a gorfod bodloni ar bwynt yn unig. Mae’r Hen Wreigan bellach ddeg pwynt y tu ôl i Inter ar y brig.

Aaron Ramsey

Tîm sydd yn brwydro tua brig prif adran Slofacia yw Dunajska Streda, mae tîm Isaac Christie-Davies yn aros yn ail ar ôl trechu Michalovce ddydd Sadwrn, gyda’r chwaraewr sydd ar fenthyg o Barnsley yn chwarae 80 munud.

Dinamo Zagreb sydd ar frig y tabl yng Nghroatia ar ôl trechu Slaven Belupo ddydd Sul. Roedd ymddangosiad prin o’r dechrau i Robbie Burton yn y fuddugoliaeth o ddwy gôl i ddim. Bydd cyn chwaraewr Arsenal heb os yn gobeithio cadw’i le yn y tîm yn awr i wynebu Bale a’r criw wrth i Zagreb chwarae Tottenham yn rownd nesaf y Cynghrair Europa mewn cwpl o wythnosau.

Ym mhen arall y tabl yng Nghroatia, colli a fu hanes Istra 1961 yn erbyn HNK Gorika. Ar y fainc am yr eilwaith mewn wythnos yr oedd Dylan Levitt wrth i’r Cymro aros am ei ymddangosiad cyntaf i’w dîm newydd.

Nid yw Leuven (Andy King) na St.Pauli (James Lawrence) yn chwarae tan nos Lun.