Mae Jonny Clayton, y Cymro Cymraeg o Bontyberem, wedi ennill Pencampwriaeth y Chwaraewyr ar ddiwrnod olaf Uwch Gyfres (Super Series) dartiau’r PDC.
Fe wnaeth e guro Damon Heta o 8-6 yn y ffeinal yn Bolton.
Fe fu’r gystadleuaeth yn rhedeg dros bedwar diwrnod.
Daeth e’n ail ddydd Iau a dydd Gwener, gan gyrraedd yr wyth olaf ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 27).
Daw’r fuddugoliaeth yn fuan ar ôl iddo fe ennill y Meistri a lle yn yr Uwch Gynghrair.
Llongyfarchiadau Jonny!
O ti’n anhygoel drwy’r wythnos ac yn haeddu un teitl o leia!
Ffordd da i ddechre dathliadau Dydd Gŵyl Dewi!
🎯🏴💪🏼 https://t.co/OqKI6PtRZb
— Darts Cymru (@DartsCymru) February 28, 2021
Y plastrwr sy’n dywysog y dartiau
Mae Jonny Clayton yn ddyn ei filltir sgwâr, yn Gymro i’r carn, yn blastrwr… ac yn un o chwaraewyr dartiau gorau’r byd
Jonny Clayton, y Cymro Cymraeg o Bontyberem, yn Feistr y byd dartiau
Fe wnaeth y gŵr o Sir Gaerfyrddin guro Mervyn King o 11-8 yn y ffeinal ym Milton Keynes
Cymru’n ennill Cwpan Dartiau’r Byd
Gerwyn Price a Jonny Clayton wedi curo’r Saeson Michael Smith a Rob Cross yn y rownd derfynol