Yn dilyn ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid mae rhanbarth Gleision Caerdydd wedi cadarnhau y byddant yn ail frandio ac yn cael eu hadnabod fel Rygbi Caerdydd o’r tymor nesaf ymlaen.
Fel rhan o’r datblygiad mae’r logo wedi’i ddiweddaru a bydd y clwb yn dychwelyd i’w liwiau traddodiadol o las a du.
Gwnaed y penderfyniad yn dilyn dadansoddiad o ddemograffeg cwsmeriaid presennol, adborth gan gefnogwyr ac ymchwil ehangach i’r farchnad.
Er bod Clwb Rygbi Caerdydd wedi bodoli ers 1876 ffurfiwyd Gleision Caerdydd yn 2003 wedi i Undeb Rygbi Cymru greu pum rhanbarth newydd – cafodd nifer y rhanbarthau eu gostwng i bedwar flwyddyn yn ddiweddarach.
‘Cam allweddol ymlaen’
“Rydym yn gweld y newid hwn fel cam allweddol ymlaen yn esblygiad rygbi’r lefel uchaf yng Nghaerdydd,” meddai Prif Weithredwr Rygbi Caerdydd, Richard Holland.
“Rydym yn falch o gofleidio ein treftadaeth a’n hanes cyfoethog, sy’n mynd yn ôl dros 145 o flynyddoedd, ac sy’n cwmpasu mawrion y gêm gan gynnwys Bleddyn Williams, Cliff Morgan, Gareth Edwards, Terry Holmes a Gethin Jenkins.
“Mae Rygbi Caerdydd yn frand byd-enwog ac mae’n rhaid i ni adeiladu ar hynny a’r llwyddiant ar y cae ac oddi arno. Nid yn unig y mae Caerdydd yn cael ei chydnabod yn fyd-eang mewn cylchoedd rygbi, mae hefyd o fudd masnachol i Gymru ac un o’r dinasoedd sy’n tyfu cyflymaf yn y DU ac Ewrop.
“Dros gyfnod hir, mae ein cefnogwyr a’n noddwyr wedi bod yn glir iawn mai dyma beth maen nhw ei eisiau ac rwy’n falch ein bod wedi gallu ymateb iddyn nhw mewn ffordd mor gadarnhaol, yn enwedig ar adeg pan maen nhw wedi sefyll wrth ein hochr ni.”
Mae’r cyhoeddiad wedi’i wneud cyn tymor 2021-22 a bydd cyfnod pontio yn cael ei gynnal yn awr i gyflwyno’r brand ym Mharc yr Arfau, asedau eraill a llwyfannau digidol.