Mae David Lloyd, is-gapten tîm criced Morgannwg, yn edrych ymlaen at y tymor newydd pan fydd e’n chwarae mewn gemau pedwar diwrnod am y tro cyntaf ers dwy flynedd ac yn aelod o garfan y Tân Cymreig yn y Can Pelen.
Fe wnaeth y chwaraewr amryddawn o Wrecsam golli ymgyrch Morgannwg yn Nhlws Bob Willis oherwydd anaf y tymor diwethaf.
Ond fe fydd ei gêm gyntaf yn ôl yn erbyn Swydd Efrog yn Headingley ar ddiwrnod cynta’r tymor newydd, sydd wedi’i addasu unwaith eto yn sgil Covid-19.
Bydd Morgannwg hefyd yn herio Swydd Gaerhirfryn, Caint, Swydd Northampton a Sussex yn y gystadleuaeth.
“Mae’n destun cyffroi cael cychwyn yn Headingley ac mae’n debyg nad ydi rhan fwya’r hogiau wedi chwarae yno o’r blaen,” meddai.
“Bydd o’n brawf go iawn ac yn her, ac mae gynnon ni griw cystadleuol sydd â digon o fowlwyr da i’w hwynebu ond fel clwb ac fel tîm, mae angen i ni gofleidio’r heriau hyn a dangos pa mor dda fedrwn ni fod.
“Mae pawb wedi cyffroi o gael bwrw iddi tu allan.
“Mi fu’n aeaf hir ac rydan ni wedi bod yn ddigon ffodus i gael parhau i ymarfer a chadw’n hunain yn ffit, ac mae’r newyddion diweddara’n golygu fod pethau’n edrych yn well.”
Bydd Morganwg yn herio Prifysgolion Caerdydd a Gwlad yr Haf mewn gemau cyfeillgar cyn dechrau’r tymor, ac yn cynnal gornest ymhlith y garfan hefyd.
“Mae ein gemau ymhlith y garfan yn mynd yn eitha’ tanllyd,” meddai.
“Mae pobol yn cystadlu am lefydd ac mae’r banter yn hedfan o amgylch. Maen nhw’n cael y gorau allan o’r chwaraewyr.”
Tân Cymreig a’r Can Pelen
Cafodd David Lloyd ei ddewis yn ddiweddar gan y Tân Cymreig i chwarae yn y gystadleuaeth Can Pelen newydd.
Ac mae’n dweud bod cael ei ddewis ochr yn ochr â sêr fel Kieron Pollard o India’r Gorllewin a’r Awstraliad Jhye Richardson yn “dipyn o sioc”.
“Mae’n rhywbeth dw i’n edrych ymlaen ato a fedra i ddim aros i’w brofi fo,” meddai.
“Roeddwn i’n rhwystredig o golli dechrau’r tymor diwethaf ond roedd cael dychwelyd, sgorio rhediadau a chael cwpwl o fuddugoliaethau i’r tîm help.”