Mae Alun Wyn Jones, capten tîm rygbi Cymru, wedi talu teyrnged i George North wrth i’r asgellwr ennill ei ganfed cap dros ei wlad yn y gêm fawr yn erbyn Lloegr heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 27).

Bydd Cymru’n ennill y Goron Driphlyg os ydyn nhw’n llwyddo i guro Lloegr yng Nghaerdydd.

Ond fe fydd North yn cyrraedd carreg filltir unigol hanesyddol, gan ddod y chwaraewr ieuengaf erioed i ennill 100 o gapiau dros ei wlad.

Roedd Jones yn chwarae yng ngêm gyntaf North dros Gymru yn 2010, pan gollon nhw yn erbyn De Affrica – ond sgoriodd North ddau gais, a bydd un arall heddiw yn dod â fe’n gyfartal â record Shane Williams o 22 yn y Chwe Gwlad.

‘Cystadleuwr ac athletwr’

“Mae George yn gystadleuwyr ac yn athletwr,” meddai Alun Wyn Jones, sydd wedi ennill 154 o gapiau rhyngwladol.

“Mae rhannu cap cyntaf rhywun yn eithaf arbennig – mae rhannu eu canfed yr un mor arbennig, os nad yn fwy arbennig.

“Mae’n anodd ei roi mewn geiriau, ond mae’n dyst i’w waith caled a’r pethau nad ydych chi’n eu gweld.

“Bydd ei weld e’n ein harwain ni allan ddydd Sadwrn yn eiliad arbennig iddo fe, ei deulu ac i ni gael bod yn rhan ohono.”