Mae Mick McCarthy, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn dweud ei fod e’n disgwyl “gêm anodd iawn” yn erbyn Middlesbrough, tîm cyn-reolwr yr Adar Gleision, Neil Warnock.
Daw sylwadau McCarthy wrth i’w dîm godi i’r chweched safle ac i mewn i’r safleoedd ail gyfle ers iddo fe gael ei benodi i olynu Neil Harris.
Yn y cyfamser, mae Middlesbrough yn nawfed yn y Bencampwriaeth, driphwynt yn unig islaw’r Adar Gleision.
Mae perfformiadau diweddar Caerdydd wedi arwain at Mick McCarthy, sydd yn rheolwr tan ddiwedd y tymor, yn cael ei gysylltu â swydd rheolwr Celtic yn yr Alban gan rai.
Ond bydd ei sylw wedi’i hoelio ar guro Middlesbrough heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 27).
“Rhaid i ni deithio yno a gwybod ein bod ni’n disgwyl gêm anodd iawn,” meddai.
“Fe gawson nhw eu curo gan Bristol City ganol yr wythnos, felly byddan nhw eisiau ymateb.
“Dw i’n edrych ymlaen at y gêm.
“Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at y gemau oherwydd rydyn ni’n eu hennill nhw, a gobeithio y bydd hynny’n parhau.
“Os yw’r chwaraewyr yn parhau i chwarae fel maen nhw wedi bod yn ei wneud, does dim rheswm pam y dylen ni gael ein curo.”
Cyfeillgarwch McCarthy a Warnock
Mae Mick McCarthy a Neil Warnock ill dau yn hanu o Swydd Efrog ac yn dipyn o ffrindiau.
“Mae e’n dipyn o fêt i fi,” meddai rheolwr Caerdydd.
“Ond yn amlwg, am 90 munud ddydd Sadwrn, fydd e ddim a bydd ganddo fe’r un teimladau.
“Os yw unrhyw un byth yn dweud ei bod yn braf chwarae yn erbyn un o fy nhimau i, byddwn i’n grac ac yn cael fy sarhau.
“Mae’r timau gorau’n ofnadwy i chwarae yn eu herbyn am ba bynnag reswm.”