Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud ei fod e eisiau i’r tîm adeiladu momentwm wrth iddyn nhw groesawu Bristol City i Stadiwm Liberty heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 27).

Enillon nhw o 1-0 yn erbyn Coventry ganol yr wythnos yn dilyn crasfa o 4-1 yn erbyn Huddersfield y penwythnos diwethaf.

Ond mae eu tynged yn eu dwylo eu hunain o hyd ar ôl dechrau mor gryf i’r tymor, ac maen nhw un pwynt yn unig islaw’r safleoedd dyrchafiad awtomatig ar ôl chwarae dwy gêm yn llai na’r timau o’u cwmpas yn y tabl.

Rheolwr newydd

Daw Bristol City dros Bont Hafren â rheolwr newydd, gyda Nigel Pearson yn gyfrifol am y tîm am y tro cyntaf ers iddo fe gael ei benodi.

Ond mae Steve Cooper yn canolbwyntio ar berfformiad ei dîm e.

“Maen nhw i gyd yn brofion enfawr,” meddai.

“Fyddwn ni ddim yn talu gormod o sylw iddyn nhw’n newid eu rheolwr na’r canlyniadau diweddar.

“Yn amlwg, rydyn ni’n dadansoddi ein gwrthwynebwyr ond byddwn ni’n canolbwyntio arnom ni ein hunain.

“Rydyn ni gartref, rydyn ni newydd gael buddugoliaeth dda ac rydyn ni eisiau ei gwneud hi’n ddwy o’r bron er mwyn magu momentwm eto.

“Dyna’r unig beth fyddwn ni’n canolbwyntio arno.

“Mae’n gêm dda i edrych ymlaen ati.”

Wynebau cyfarwydd

Bydd Steve Cooper yn wynebu dau wyneb cyfarwydd ymhlith hyfforddwr Bristol City.

Roedd e’n arfer gweithio gyda Keith Downing a Paul Simpson pan oedd e’n rheolwr ar dîm dan 17 oed Lloegr.

“Ond rydyn ni ond yn canolbwyntio arnom ni ein hunain a gobeithio y bydd yn ddigon er mwyn i ni gael diwrnod positif arall.”