Bydd cefnogwyr timau pêl-droed Caerdydd ac Abertawe yn dod ynghyd fel rhan o ymgyrch gwrth-hiliaeth newydd cyn darbi fawr de Cymru fis nesaf.

Nod y fenter, sy’n dod o dan faner ‘Rivals on the Pitch, United Against Racism’, yw rhoi’r cyfle i gefnogwyr y ddau dîm ddangos eu gwrthwynebiad ar y cyd i hiliaeth, drwy anfon fideo ohonyn nhw eu hunain yn plygu glin neu drwy gyflwyno neges gwrth-hiliaeth.

Daw hyn wedi i chwaraewr Abertawe, Yan Dhanda, alw ar yr awdurdodau i wneud mwy i frwydro yn erbyn cam-drin ar-lein ar ôl iddo dderbyn negeseuon preifat hiliol ar ei gyfrif Instagram.

Mae’r trefnwyr yn gobeithio cynnwys y ddau glwb yn yr ymgyrch.

Cefnogi Black Lives Matter

“Ar Fawrth 20 bydd chwaraewyr pêl-droed Dinas Abertawe a chwaraewyr pêl-droed Dinas Caerdydd unwaith eto yn plygu glin i gefnogi Black Lives Matter,” meddai llefarydd ar ran y grŵp.

“Mae’n gydnabyddiaeth nad yw pobol ddu, hyd heddiw, wedi cael eu trin yn gyfartal â phobol wyn.

“Mae’r amser ar gyfer newid wedi bod yn rhy hir yn dod, ond mae yma.

“Mae cyfrifoldeb arnom ni fel pêl-droedwyr, cefnogwyr a chlybiau i fod yn rhan o’r mudiad hwn.

“Mae pêl-droed yn rhan hanfodol o wead cymdeithas Prydain. Rhaid inni gydnabod bod y baich o roi terfyn ar hiliaeth arnom gymaint ag ydyw i bob elfen arall mewn cymdeithas.”

Yn ddiweddar, mynnodd rheolwr Abertawe, Steve Cooper, y byddai’r clwb yn parhau i blygu glin “nes bod rheswm” i stopio.

Yan Dhanda

Pêl-droediwr Asiaidd Abertawe’n galw am waharddiad oes am negeseuon hiliol ar y we

Alun Rhys Chivers

“Dydy’r cwmnïau cyfryngau cymdeithasol ddim wedi fy argyhoeddi y byddan nhw’n gwneud yn well y tro nesaf” medd Yan Dhanda wrth golwg360